Print

Print


MessageByddwn i'n tybio bod pob sedd yn gynhaliol. Fyddai hi ddim yn sedd fel arall. Yr hyn y byddai 'sedd gynhaliol' yn ei olygu i mi yw sedd a fyddai'n eich dal yn dynn ymhobman, fel sedd mewn car rasio, yn hytrach na rhywbeth sy'n fwy tebyg i flocyn pren ond ychydig bach yn fwy cyfforddus.

Berwyn

----- Original Message ----- 
  From: Heledd Mitchell 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, December 13, 2005 4:57 PM
  Subject: Re: booster seat/booster cushion


  Mae gen i frith gof y trafodwyd y term 'cynhaliol' i gyfleu hyn bron i flwyddyn yn ôl, os nad rhagor. Wn i ddim a fyddai hynny'n gwneud y tro fan hyn.

  Heledd 



   -----Original Message-----
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
  Sent: 13 December 2005 16:43
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: booster seat/booster cushion


    Fe ddes i ar draws y neges isod ar fy system - dylai fod wedi cael ei hanfon cyn fy neges ddwetha:

    Petai'n rhoi 'hwb', fe âi'r plentyn dros sedd y gyrrwr neu'r teithiwr a tharo'r sawl sydd ar y sedd o'i flaen - neu allan drwy'r ffenest ... Byddai'n nes at fod yn 'ejector seat'!

    Y broblem yw bod 'booster seat' yn defnyddio'r gair 'booster' mewn ffordd go anarferol. Ystyr weithredol sydd i'r gair fel rheol. ond yn yr achos hwn y cyfan y mae'r sedd yn ei wneud yw dal y plentyn ar lefel uwch na sedd arferol y car

    Berwyn
      ----- Original Message ----- 
      From: Eirian Youngman 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Tuesday, December 13, 2005 3:04 PM
      Subject: Re: booster seat/booster cushion


      Beth am sedd hybu - h.y. yn yr ystyr o 'roi hwb' yn llythrennol?

      Eirian
        ----- Original Message ----- 
        From: Mary Jones 
        To: [log in to unmask] 
        Sent: Tuesday, December 13, 2005 2:56 PM
        Subject: Re: booster seat/booster cushion


        Ges inne'r un broblem yn union, Berwyn, a gorfod dod i'r un casgliad yn union, er nad own i'n hapus.

        Mary

         

         


------------------------------------------------------------------------

        From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
        Sent: 13 December 2005 14:05
        To: [log in to unmask]
        Subject: Re: booster seat/booster cushion

         

        Rwy'n credu i mi ddefnyddio 'sedd godi' am 'booster seat' wrth gyfieithu rhyw ddeunydd diogelwch ar y ffyrdd beth amser yn ôl. Dôn i ddim yn gwbl hapus gan fod y fath beth yn bod (neu o leiaf yn arfer bod) â 'tip-up seat'. Ond yng nghyd-destun plant mewn ceir, rôn i'n tybio y byddai ystyr 'sedd godi' yn ddigon clir.

         

        Berwyn

          ----- Original Message ----- 

          From: Pennawd Cyf. 

          To: [log in to unmask] 

          Sent: Tuesday, December 13, 2005 12:50 PM

          Subject: booster seat/booster cushion

           

          I blant mewn ceir.  Diffiniad:

          "a seat/cushion to raise a child in a vehicle so that the vehicle's seat belt fits properly".

           

          Gwregys y car sy'n dal y plentyn, yn wahanol i 'child seat', lle mae gan y sedd ei hun strapiau i ddal y plentyn, a'r sedd wedi'i gosod yn y car gan ddefnyddio gwregys y car neu ryw system arall.

           

          Mae fersiwn Cymraeg y tudalen sy'n sôn am seddi o'r fath ar wefan 'Her Iechyd Cymru' yn defnyddio 'sedd plentyn' am 'child seat' a 'sedd gyfnerthu/clustog cyfnerthu' am 'booster seat/booster cushion'!  A oedd y cyfieithydd yn meddwl am bigiadau, efallai?

           

          Gan mai codi'r plentyn yw'r diben, a fyddai 'sedd godi' yn iawn? Neu a yw hynny'n awgrymu y math o gadair â mecanwaith trydan i godi'r sedd, a ddefnyddir gan bobl sy'n cael trafferth codi o gadair?


----------------------------------------------------------------------

          No virus found in this incoming message.
          Checked by AVG Free Edition.
          Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005



--------------------------------------------------------------------------


      No virus found in this incoming message.
      Checked by AVG Free Edition.
      Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005



------------------------------------------------------------------------------


  No virus found in this incoming message.
  Checked by AVG Free Edition.
  Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005