Pan oeddwn i'n gweithio i Gyngor Dosbarth Ceredigion, ac ysgrifenyddes (Gymraeg) y Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth yn dod i'n swyddfa i gael sgwrs ac ysgrifenyddes (ddi-Gymraeg) y Prif Weithredwr, dyna air y byddai hithau hefyd yn taflu i mewn i'w sgwrs Saesneg. (Bruce newydd ddweud mai gair o ardal Ceredigion yn bennaf ydyw).
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">INC Cyfieithu Translation
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, December 01, 2005 2:19 PM
Subject: Re: Haphazard - didoreth

Mae fy mam (a'i chwaer) sydd hefyd yn ddi Gymraeg, yn defnyddio 'didoreth' fel rhan o'i hiaith bob dydd.  Unwaith eto mae hi'n defnyddio'r gair i ddisgrifio person - fel rheol rhywun sy'n ddi-drefn, efallai ychydig yn syml neu ychydig yn araf.  O Gilfynydd, ger Pontypridd, y daw Mam.
 
Am flynyddoedd roeddwn yn meddwl mai gair Saesneg oedd e!
 
Sue
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Alwyn Evans
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, December 01, 2005 1:27 PM
Subject: Re: Haphazard - didoreth

Mae'n od - roedd fy modryb , nad oedd yn siarad Cymraeg, yn defnyddio'r gair - why are you so didoreth? - ei rheini'n Gymry Caerdydd, a benderfynnodd yn nechrau'r ganrif diwethaf i gadw'r Gymraeg fel cyfrin iaith rhyngddynt eu hunain, a dwyn eu plant i fyny'n ddiGymraeg. Ond chlywais i erioed ddefnyddio'r gair ar lafar heblaw ganddi hi
 
Aflêr, neu dros bod man oedd ei hystyr iddo - felly mae hynny'n ffitio, heblaw am y ffaith mai ar gyfer bachgen neu ferch yr arferai ei ddefnyddio
 
Alwyn


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.13.10/188 - Release Date: 29/11/2005


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.362 / Virus Database: 267.13.10/188 - Release Date: 29/11/05