Pan oeddwn i'n gweithio i Gyngor Dosbarth Ceredigion, ac ysgrifenyddes (Gymraeg) y Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth yn dod i'n swyddfa i gael sgwrs ac ysgrifenyddes (ddi-Gymraeg) y Prif Weithredwr, dyna air y byddai hithau hefyd yn taflu i mewn i'w sgwrs Saesneg. (Bruce newydd ddweud mai gair o ardal Ceredigion yn bennaf ydyw). Ann ----- Original Message ----- From: INC Cyfieithu Translation To: [log in to unmask] Sent: Thursday, December 01, 2005 2:19 PM Subject: Re: Haphazard - didoreth Mae fy mam (a'i chwaer) sydd hefyd yn ddi Gymraeg, yn defnyddio 'didoreth' fel rhan o'i hiaith bob dydd. Unwaith eto mae hi'n defnyddio'r gair i ddisgrifio person - fel rheol rhywun sy'n ddi-drefn, efallai ychydig yn syml neu ychydig yn araf. O Gilfynydd, ger Pontypridd, y daw Mam. Am flynyddoedd roeddwn yn meddwl mai gair Saesneg oedd e! Sue ----- Original Message ----- From: Alwyn Evans To: [log in to unmask] Sent: Thursday, December 01, 2005 1:27 PM Subject: Re: Haphazard - didoreth Mae'n od - roedd fy modryb , nad oedd yn siarad Cymraeg, yn defnyddio'r gair - why are you so didoreth? - ei rheini'n Gymry Caerdydd, a benderfynnodd yn nechrau'r ganrif diwethaf i gadw'r Gymraeg fel cyfrin iaith rhyngddynt eu hunain, a dwyn eu plant i fyny'n ddiGymraeg. Ond chlywais i erioed ddefnyddio'r gair ar lafar heblaw ganddi hi Aflêr, neu dros bod man oedd ei hystyr iddo - felly mae hynny'n ffitio, heblaw am y ffaith mai ar gyfer bachgen neu ferch yr arferai ei ddefnyddio Alwyn ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Anti-Virus. Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.13.10/188 - Release Date: 29/11/2005 ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.362 / Virus Database: 267.13.10/188 - Release Date: 29/11/05