----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann CorkettTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Thursday, December 22, 2005 11:50 PMSubject: Re: Cracyrs!?Diolch unwaith eto i bawb a anfonodd gyfraniad. Yn y diwedd, penderfynais nad oedd amser i baratoi rhywbeth gwahanol ar gyfer pob un, nac i ddefnyddio pob enghraifft. Creais restr o'r cyfieithiadau, gyda rhestr o'r arwyddion gwreiddiol ar y diwedd, ond bod yr ail restr wedi'i phlygu a'i selio gyda darn o dâp. Rhaid cymeradwyo cit craceri Tesco's gan imi lwyddo i wneud a llenwi wyth ohonynt yng nghefn y car rhwng Bangor a'r Blaenau. a Bruce yn gwibio trwy drofeydd Nant Ffrancon.'Rwy'n cynnwys copi o'r rhestr ar ddiwedd y neges hon, rhag ofn y gall rhai ohonoch wneud defnydd ohoni dros yr wyl. O ran enghraifft Berwyn, diolch yn fawr iawn amdani. Mae'n siwr o ymddangos yn y dosbarth y tymor nesaf fel ymarfer golygu - a oes copi o'r Saesneg ar gael hefyd, Berwyn?I'r rhai ohonoch sy'n dal i weithio ac i edrych ar yr e-bost, dymuniadau gorau ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd,AnnCAMGYFIEITHIADAU
A allwch chi ddyfalu beth oedd y Saesneg gwreiddiol?
(Mae’r atebion dan sêl yng ngwaelod y tudalen)
Profedigaethau cwn defaid
Arwydd ffordd tu fas i Abertawe: Pennau Ymwelwyr
Yn ffenest siop Sainsburys yng Nghaerdydd: Lluniau yn gorymdeithio
Arwydd yn y Neuadd Goffa yn y Barri: Neuadd Swyno
Dyddiad cyhoeddi ar gylchlythyr misol: Mis Mawreddog
Mae ar rai pobl ei angen: Sefydlu Caffeine
Amser Agorfa
Mewn Bwyty: Oedfa'r Brecwast; Oedfa'r Cinio; Oedfa'r Prynhawn
Arwydd mewn archfarchnad: Melysion a Phethau Dibwys
Morlo Mawr Owain Glyn Dŵr,
Arwydd mewn archfarchnad ym Mangor: Torllwyth Cath
Arwydd yng ngorsaf y Blaenau gynt: Clud Aswy
Arwydd ffordd dros dro yn Llan-non, Ceredigion: Disyrru Masnach
Dim Eistedd Neu Sefyll Ar Y Sill. Diferyn Llym Yn Arwain I Tyrfa Bws.
Sheepdog trials
Tourist Destinations
Photo processing.
Entrace Hall
August
Caffeine Fix
Opening Times:
Breakfast Service; Lunch Service; Afternoon Service
Sweets and Trifles
The Great Seal of Owain Glyndŵr
Cat Litter
Left Luggage
Diverted Traffic
No Sitting Or Standing On The Ledge. Severe Drop On To Bus Concourse
----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw GaranTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Friday, December 16, 2005 11:57 PMSubject: Re: Cracyrs!?Rwy'n cofio llynedd roedd arwydd ar yr heol 'gefn' i Langadog yn rhybuddio bod "Llain ar y ffordd", ac mae arwyddion ar yr A40 yn Halfway ar hyn o bryd yn ein gorchymun i aros "wrth y traffig goleuadau".
Mae'r arwyddion ar yr A470 lawr i Gaerdydd (y ffordd ddeuol ar ôl Merthyr) yn wallus hefyd os cofiaf - dyletswydd pwy yw eu cyfieithu nhw?
Hg
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.14.1/204 - Release Date: 15/12/05
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.14.3/209 - Release Date: 21/12/2005