Dwy' i ddim erioed wedi gweld y copi Saesneg. Y gamp - yn ogystal â chywiro'r elfennau chwerthinllyd - yw dyfalu beth oedd geiriad y Saesneg gwreiddiol. Rwy' wedi methu'n lân â gwneud hynny mewn mannau! Berwyn ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Thursday, December 22, 2005 11:50 PM Subject: Re: Cracyrs!? Diolch unwaith eto i bawb a anfonodd gyfraniad. Yn y diwedd, penderfynais nad oedd amser i baratoi rhywbeth gwahanol ar gyfer pob un, nac i ddefnyddio pob enghraifft. Creais restr o'r cyfieithiadau, gyda rhestr o'r arwyddion gwreiddiol ar y diwedd, ond bod yr ail restr wedi'i phlygu a'i selio gyda darn o dâp. Rhaid cymeradwyo cit craceri Tesco's gan imi lwyddo i wneud a llenwi wyth ohonynt yng nghefn y car rhwng Bangor a'r Blaenau. a Bruce yn gwibio trwy drofeydd Nant Ffrancon. 'Rwy'n cynnwys copi o'r rhestr ar ddiwedd y neges hon, rhag ofn y gall rhai ohonoch wneud defnydd ohoni dros yr wyl. O ran enghraifft Berwyn, diolch yn fawr iawn amdani. Mae'n siwr o ymddangos yn y dosbarth y tymor nesaf fel ymarfer golygu - a oes copi o'r Saesneg ar gael hefyd, Berwyn? I'r rhai ohonoch sy'n dal i weithio ac i edrych ar yr e-bost, dymuniadau gorau ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, Ann CAMGYFIEITHIADAU A allwch chi ddyfalu beth oedd y Saesneg gwreiddiol? (Mae'r atebion dan sêl yng ngwaelod y tudalen) Profedigaethau cwn defaid Arwydd ffordd tu fas i Abertawe: Pennau Ymwelwyr Yn ffenest siop Sainsburys yng Nghaerdydd: Lluniau yn gorymdeithio Arwydd yn y Neuadd Goffa yn y Barri: Neuadd Swyno Dyddiad cyhoeddi ar gylchlythyr misol: Mis Mawreddog Mae ar rai pobl ei angen: Sefydlu Caffeine Amser Agorfa Mewn Bwyty: Oedfa'r Brecwast; Oedfa'r Cinio; Oedfa'r Prynhawn Arwydd mewn archfarchnad: Melysion a Phethau Dibwys Morlo Mawr Owain Glyn Dwr, Arwydd mewn archfarchnad ym Mangor: Torllwyth Cath Arwydd yng ngorsaf y Blaenau gynt: Clud Aswy Arwydd ffordd dros dro yn Llan-non, Ceredigion: Disyrru Masnach Dim Eistedd Neu Sefyll Ar Y Sill. Diferyn Llym Yn Arwain I Tyrfa Bws. Sheepdog trials Tourist Destinations Photo processing. Entrace Hall August Caffeine Fix Opening Times: Breakfast Service; Lunch Service; Afternoon Service Sweets and Trifles The Great Seal of Owain Glyndwr Cat Litter Left Luggage Diverted Traffic No Sitting Or Standing On The Ledge. Severe Drop On To Bus Concourse ----- Original Message ----- From: Huw Garan To: [log in to unmask] Sent: Friday, December 16, 2005 11:57 PM Subject: Re: Cracyrs!? Rwy'n cofio llynedd roedd arwydd ar yr heol 'gefn' i Langadog yn rhybuddio bod "Llain ar y ffordd", ac mae arwyddion ar yr A40 yn Halfway ar hyn o bryd yn ein gorchymun i aros "wrth y traffig goleuadau". Mae'r arwyddion ar yr A470 lawr i Gaerdydd (y ffordd ddeuol ar ôl Merthyr) yn wallus hefyd os cofiaf - dyletswydd pwy yw eu cyfieithu nhw? Hg ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.14.1/204 - Release Date: 15/12/05 ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.14.3/209 - Release Date: 21/12/2005