Yn gyntaf, mae'n ddrwg gen i nad ydwi wedi ymateb
ynghylch y craceri. Ces fy nhorri allan o'r grwp yn awtomatig am rai
dyddiau oherwydd anawsterau technegol, a bu'n rhaid ail-ymuno. Byddaf yn
ymateb ar y pwnc hwnnw nes ymlaen!
Mae gen i frawddeg i'w chyfieithu:
One
resident pointed to the fact that her child, a Downs Syndrome, was more
susceptible to the health risk ...
Soniais
wrth swyddog y cwsmer, wrth wneud rhai ymholiadau, fy mod i'n cael hyn yn ffordd
braidd yn sarhaus o gyfeirio at y plentyn. Ei ateb oedd:
"the medical papers do refer to sufferers as Downs
Syndrome"
'Dw i ddim yn siwr a ydy o wedi deall fy sylw, ond fy nghwestiwn -
efallai ar gyfer Delyt (Prys) yn arbennig - yw:
beth yw'r ffordd orau o cyfleu hyn - a ddioddefai Syndrom Down? a
oedd â syndrom Down arno?
Diolch yn fawr iawn,
Ann