Messagebe sy'n bod ar "sedd uchel"? ----- Original Message ----- From: Huw Tegid To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, December 14, 2005 9:35 AM Subject: Re: booster seat/booster cushion Ydi 'sedd uwch' yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhyw sedd arall (fel cadair uchel babanod, er enghraifft)? Ai bwriad y 'boosters' hyn (boed hynny mewn car, toiled, neu rywle arall) yw codi'r sawl sy'n eistedd i lefel "uwch" na'r sedd sylfaenol, ynteu oes yna rywbeth arall y mae gofyn i ni ei gadw mewn cof wrth geisio cyfieithu 'booster'? Huw. ------------------------------------------------------------------------------ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 14 December 2005 08:27 To: [log in to unmask] Subject: Re: booster seat/booster cushion Gwaetha'r modd, does dim clustog yn agos ati - mae'n reit galed. 'Sedd ddyrchafu' sy'n ei disgrifio hi orau, ond go brin y byddai neb yn defnyddio'r fath ymadrodd 'dyrchafol'! ('Ble mae dy sedd ddyrchafu di, cyw?') Rwy'n dal i gredu/ofni mai 'sedd godi' yw'r cyfieithiad gorau er bod y 'sedd godi' sydd ar dŷ bach yn beth go wahanol ... Berwyn ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 5:45 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion 'Roeddwn i'n meddwl am "wedge heels", er bod y gair "wedge" yn Saesneg yn cyfleu siâp trionglog. Gwelaf o GyrA fod modd "wedge up a piece of furniture" trwy roi "gwadn" dan un pen. Cymeraf na fyddai "gwadn pen-ôl" yn dderbyniol? Awgrymiadau Bruce, yn fwy ymarferol, yw "sedd glustog" a "sedd ddyrchafu". Ann ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 5:21 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion Byddwn i'n tybio bod pob sedd yn gynhaliol. Fyddai hi ddim yn sedd fel arall. Yr hyn y byddai 'sedd gynhaliol' yn ei olygu i mi yw sedd a fyddai'n eich dal yn dynn ymhobman, fel sedd mewn car rasio, yn hytrach na rhywbeth sy'n fwy tebyg i flocyn pren ond ychydig bach yn fwy cyfforddus. Berwyn ----- Original Message ----- From: Heledd Mitchell To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 4:57 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion Mae gen i frith gof y trafodwyd y term 'cynhaliol' i gyfleu hyn bron i flwyddyn yn ôl, os nad rhagor. Wn i ddim a fyddai hynny'n gwneud y tro fan hyn. Heledd -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 13 December 2005 16:43 To: [log in to unmask] Subject: Re: booster seat/booster cushion Fe ddes i ar draws y neges isod ar fy system - dylai fod wedi cael ei hanfon cyn fy neges ddwetha: Petai'n rhoi 'hwb', fe âi'r plentyn dros sedd y gyrrwr neu'r teithiwr a tharo'r sawl sydd ar y sedd o'i flaen - neu allan drwy'r ffenest ... Byddai'n nes at fod yn 'ejector seat'! Y broblem yw bod 'booster seat' yn defnyddio'r gair 'booster' mewn ffordd go anarferol. Ystyr weithredol sydd i'r gair fel rheol. ond yn yr achos hwn y cyfan y mae'r sedd yn ei wneud yw dal y plentyn ar lefel uwch na sedd arferol y car Berwyn ----- Original Message ----- From: Eirian Youngman To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 3:04 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion Beth am sedd hybu - h.y. yn yr ystyr o 'roi hwb' yn llythrennol? Eirian ----- Original Message ----- From: Mary Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 2:56 PM Subject: Re: booster seat/booster cushion Ges inne’r un broblem yn union, Berwyn, a gorfod dod i’r un casgliad yn union, er nad own i’n hapus. Mary ------------------------------------------------------------------ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 13 December 2005 14:05 To: [log in to unmask] Subject: Re: booster seat/booster cushion Rwy'n credu i mi ddefnyddio 'sedd godi' am 'booster seat' wrth gyfieithu rhyw ddeunydd diogelwch ar y ffyrdd beth amser yn ôl. Dôn i ddim yn gwbl hapus gan fod y fath beth yn bod (neu o leiaf yn arfer bod) â 'tip-up seat'. Ond yng nghyd-destun plant mewn ceir, rôn i'n tybio y byddai ystyr 'sedd godi' yn ddigon clir. Berwyn ----- Original Message ----- From: Pennawd Cyf. To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 13, 2005 12:50 PM Subject: booster seat/booster cushion I blant mewn ceir. Diffiniad: "a seat/cushion to raise a child in a vehicle so that the vehicle's seat belt fits properly". Gwregys y car sy'n dal y plentyn, yn wahanol i 'child seat', lle mae gan y sedd ei hun strapiau i ddal y plentyn, a'r sedd wedi'i gosod yn y car gan ddefnyddio gwregys y car neu ryw system arall. Mae fersiwn Cymraeg y tudalen sy'n sôn am seddi o'r fath ar wefan 'Her Iechyd Cymru' yn defnyddio 'sedd plentyn' am 'child seat' a 'sedd gyfnerthu/clustog cyfnerthu' am 'booster seat/booster cushion'! A oedd y cyfieithydd yn meddwl am bigiadau, efallai? Gan mai codi'r plentyn yw'r diben, a fyddai 'sedd godi' yn iawn? Neu a yw hynny'n awgrymu y math o gadair â mecanwaith trydan i godi'r sedd, a ddefnyddir gan bobl sy'n cael trafferth codi o gadair? ---------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005 -------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005 ------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005 -------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/05 ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/2005 -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/199 - Release Date: 13/12/2005 Ymwadiad Ebost Ar gyfer y derbynwyr a enwir yn unig y mae'r trosglwyddiad ebost hwn. Gallai gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os nad chi yw'r derbyniwr bwriadedig, rhaid i chi beidio â chymryd camau gweithredu'n seiliedig arno, na'i gopïo na'i ddangos i unrhyw berson; byddwch cystal â chysylltu â [log in to unmask] ar unwaith os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed sy'n digwydd o ganlyniad i firysau meddalwedd. Email Disclaimer This electronic mail transmission is intended for the named recipients only. It may contain private and confidential information, If you are not the intended recipient, you must take no action based upon it, nor must you copy it or show it to anyone; please contact [log in to unmask] immediately if you have received this message by mistake. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses. -- No virus found in this outgoing message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/199 - Release Date: 13/12/2005