Cefais innau hefyd fy nysgu i beidio a dechrau brawddeg Saesneg a ffigur. Ann ----- Original Message ----- From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, September 30, 2005 10:54 AM Subject: Re: 2million/2 billion > Anghofiais ddweud bod gan sefydliadau eu rheolau ynghylch ysgrifennu rhifau. > Yn y Swyddfa Gymreig ar un adeg, rheol yr adran deipio oedd ysgrifennu pob > rhif llai na deg fel gair a phob rhif o hynny ymlaen fel ffigur. Newidiwyd > hynny'n ddiweddarach i ysgrifennu pob rhif heblaw 'un' fel ffigur, ond > cafwyd ambell beth twp o ganlyniad (e.e. 'but 2 can play that game') a bu'n > rhaid llacio ychydig ar y 'rheol'. > > Ar ddechrau brawddeg, yr arfer oedd ysgrifennu unrhyw ffigur fel gair (e.e. > Sixty-one people were affected by ...). Wrth gyfieithu, wrth gwrs, gellid > defnyddio'r ffigur am nad oedd yn dod ar ddechrau'r frawddeg (e.e > Effeithiwyd ar 61 o bobl ...). > > Ydy sefydliadau fel y Cynulliad yn dal i arddel rheolau o'r fath? > > Berwyn > > ----- Original Message ----- > From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 10:35 PM > Subject: Re: 2million/2 billion > > > Hm. Faswn i yn rhoi marciau ychwanegol i rywun fyddai'n rhoi "dwy seren" > wrth gyfieithu "2 stars" ... > > Ac nid gwgu braidd faswn i, ond gwenu. > > Ond dyna fo, dyna pam nad ydw i'n arholwr, mae'n siwr... > > Geraint > > ----- Original Message ----- > From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 4:30 PM > Subject: Re: 2million/2 billion > > > Fel arholwr, byddwn i'n gwgu braidd, ond yn ymatal rhag tynnu marc os nad > oes rhywbeth arall gerllaw fydd yn gwneud i mi wgu'n fwy! > > Berwyn > > ----- Original Message ----- > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 3:48 PM > Subject: Re: 2million/2 billion > > > O^l feri wel, Berwyn, ond gwahaniaeth bach iawn yw rhwng dweud rhywbeth yn > eich pen a dweud rhywbeth yn uchel. Mae Bruce yn pwysleisio mai ar gyfer 2, > 3, 4, ac i ryw raddau 5 a 6, y dylid ystyried ysgrifennu'r rhif yn llawn. > Oni wneir fel hyn, bydd pobl mewn perygl o ddarllen "dau goeden", "pump dyn" > ac ati. Hefyd, o brofiad personol, mae'n osgoi problemau wrth ddefnyddio > cof cyfieithu. Os nad oes newid arall mewn brawddeg, mae Trados yn cyfnewid > rhifau heb ofyn ichi ac yn dangos "exact match". Os oedd gennych "2 dy^" yn > y rhestr flaenorol, fe gewch "3 ty^", ac os oedd gennych "2 bunt", fe gewch > "3 bunt". > > Gyda llaw, a fyddi di'n tynnu marciau gen i os dilynaf yr egwyddor hon mewn > arholiad? > > Mae "2 biliwn" yn hollol annerbyniol gan Bruce, ac nid yw'n derbyn y > Cynulliad fel awdurdod yn hyn o beth (ac iawn, 'rwyf i [Ann] yn gwybod bod > rhaid ufuddhau i'r cwsmer, ond mae modd dwyn perswad ar y cwsmer hefyd). > > Mater arall yw'r dyddiadau. > > Cofion gorau, > > Ann > > ----- Original Message ----- > From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 2:20 PM > Subject: Re: 2million/2 billion > > > > Er cymaint y byddai'n well gen i beidio ag anghytuno â Llywydd er > Anrhydedd > > Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, heb sôn am anghytuno ag Elwyn, byddwn i'n > > barnu mai'r cwsmer sydd i benderfynu pa ffurf y mae'n dymuno'i rhoi ar > > ffigurau yn ei destun. > > > > Os yw'n dweud '2 stars', fe roddaf '2 seren' yn fy nghyfieithiad. Os yw'n > > dweud 'two stars', fe roddaf 'dwy seren'. > > > > Os yw'n dweud '23 April 1999' fe roddaf '23 Ebrill 1999', nid 'y trydydd > ar > > hugain o Ebrill mil naw naw naw' er y gall rhai darllenwyr ddweud > > 'twenty-three/dau ddeg tri Ebrill nineteen ninety nine' yn eu meddyliau. > > > > I mi, yr unig eithriadau i'r rheol yw: > > > > 1. sillafu ffigurau pan fydd y sgript i gael ei darllen neu ei recordio a > > bod angen tipyn o arweiniad ar y sawl sy'n ei llefaru, a > > > > 2. pan geir '2 hours' neu '2 days' neu ffurfiau tebyg yn y gwreiddiol. Os > > digwydd hynnny, y ffurfiau cywir, yn fy marn i, yw 'dwyawr', 'deudydd' ac > > ati. > > > > Berwyn > > > > ----- Original Message ----- > > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> > > To: <[log in to unmask]> > > Sent: Wednesday, September 28, 2005 11:41 AM > > Subject: Re: 2million/2 billion > > > > > > Ie, llithriad, mae'n rhaid, fu dynodi biliwn yn fenywaidd yng NgyrA. > > > > I wahaniaethu rhwng "biliwn" a "miliwn" felly, byddai'n gymorth petaem yn > > dilyn anogaeth John Elwyn Hughes a pheidio ag ysgrifennu mewn ffigyrau, > h.y. > > ysgrifennu "dau filiwn" neu "dwy filiwn" yn lle "2 filiwn". Fel y dywed > ef, > > wrth weld y ffigyrau 2, 3, 4 y tuedd yw dweud "dau", "tri", "pedwar" hyd > yn > > oed o flaen enw benywaidd. > > > > Er hynny, prin fydd y nifer ohonom a all gofio pa un o'r ddau rif sy'n > > wrywaidd a pha un sy'n fenywaidd. Cymhlethir y mater gan y newid a fu yn > > ystyr "billion". Yr ystyr gywir yw miliwn miliwn, a dyna a fu'n safonol > yn > > y Deyrnas Unedig. Er hynny, yn ddiweddar newidiwyd yr ystyr gan ddilyn > > arfer America, i olygu mil o filynau. Ar gyfer yr ystyr newydd hon, i > osgoi > > unrhyw gamddealltwriaeth, dylid arfer y ffurf "milfiliwn" a restrir yng > NgPC > > fel enw benywaidd (yn betrus), yng Ngeiriadur Edward Anwyl (Spurrrell) ac > > yng NgyrA. Yr ansoddair cyfatebol fydd "milfiliynfed". > > > > Dyna ddatrys yr anhawster mi gredaf. > > > > Bruce > > > > ----- Original Message ----- > > From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]> > > To: <[log in to unmask]> > > Sent: Wednesday, September 28, 2005 8:58 AM > > Subject: Re: 2million/2 billion > > > > > > Ysgrifennodd Dwynwen: > > > > > Diolch i chi Muiris a Berwyn am y cyfeiriad i GyG - ond yn fy > > > marn i mae'r broblem yn dal i godi ar ol *dau *- mae *dau filiwn* > > > yn swnio fel defnydd anghywir o'r rhifolyn yn hytrach na > > > threiglad o *Biliwn .* > > > > > > Dwi'n cytuno braidd efo Berwyn - derbyn fod miliwn a biliwn > > > yn fenywaidd a pheidio treiglo biliwn ar ol dwy oedd fy > > > ngreddf gyntaf innau i osgoi unrhyw amwysedd neu gamddeall. . > > > > > > Mi faswn i'n reit hapus i ddefnyddio *dau biliwn* neu *dwy > > > biliwn* - o leia mae'r ddau yna yn gneud yn glir mai *biliwn* > > > olygir. Ond pa un ddylwn i fynd amdano??? > > > Dwynwen > > > > > > > > > --- Original Message ----- > > > *From:* Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]> > > > *To:* [log in to unmask] > > > <mailto:[log in to unmask]> > > > *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 6:15 PM > > > *Subject:* Re: 2million/2 billion > > > > > > Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, td. 138, adran 4.8(a): > > > > > > "Dau enw arall y gall eu ffurfiau orymylu yn sgîl treiglo yw > > > /biliwn/ a /miliwn/. Ni fydd unrhyw amwysedd pan oleddfir y ddau > > > hyn gan rifolion, > > > e.e. biliwn: dau filiwn, tri biliwn, pum biliwn > > > miliwn: dwy filiwn, tair miliwn, pum miliwn." > > > > > > Awgryma ymhellach fod modd osgoi amwysedd rhwng biliwn a miliwn os > > > cânt eu treiglo, a hynny drwy ddweud 'un biliwn' yn lle 'biliwn' > > > ac 'un filiwn' yn lle 'miliwn'. > > > > > > Yn anffodus, dyw hynny ddim yn gweithio os defnyddir y rhif: dyw > > > '2 filiwn' ddim yn ddiamwys. Byddai'n rhaid dweud '2 biliwn'. > > > > > > Mae Geiriadur y Brifysgol, y Geiriadur Cymraeg Cyfoes a'r > > > Termiadur yn cytuno â Peter mai gair gwrywaidd yw 'biliwn', ond yn > > > groes i hynny dywed Geiriadur yr Academi mai gair benywaidd ydyw > > > (os felly, byddwn i'n dweud 'dwy biliwn'). > > > > > > Rwy'n teimlo 'mod i wedi gwneud y tywyllwch yn dywyllach byth! Pa > > > Gymro neu Gymraes welai'r gwahaniaeth enfawr rhwng '*dwy* filiwn' > > > a '*dau* filiwn'? Os yw 'miliwn' yn fenywaidd, pam y dylai > > > 'biliwn' fod yn wrywaidd? Oni fyddai'n well i'r ddau enw fod yn > > > fenywaidd a pheidio â threiglo 'biliwn' ar ôl 'dwy'? > > > > > Wow! Peth peryg iawn yw rhagnodi cenedl enw, gan fod treiglo yn rhywbeth > > sy'n digwydd yn reddfol i siaradwyr Cymraeg rhugl. Lle ceir tystiolaeth > > fod gair yn cymryd cenedl arbennig yn yr iaith, dylid glynu at hynny. Yn > > achos 'biliwn' mae enghraifft Geiriadur Prifysgol Cymru yn dyddio o 1725 > > ac yn nodi 'biliwn neu ddau' yn ddiamwys. Mae'n bosib mai llithriad yw > > nodi 'biliwn' fel benywaidd yng Ngeiriadur yr Academi, ac nid yw'n > > ddigon o dystiolaeth ar ei ben ei hun i newid cenedl gair. Y mwyaf y > > gellid gwneud os daw tystiolaeth o rywle arall y gall 'biliwn' fod yn > > fenywaidd hefyd yw ei nodi fel enw gwrywaidd/benywaidd. Yn y cyfamser, > > mae'n well peidio 'biliwn' lle byddai'n achosi amwysedd. > > > > Delyth > > > > > > > > Ond pwy ydw i i ddeddfu? > > > > > > Berwyn > > > > > > ----- Original Message ----- > > > *From:* Dwynwen <mailto:[log in to unmask]> > > > *To:* [log in to unmask] > > > <mailto:[log in to unmask]> > > > *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 5:31 PM > > > *Subject:* 2million/2 billion > > > > > > Tybed fedrwch chi helpu. > > > Isio gwahaniaethu rhwng 2 million a 2 billion yn Gymraeg > > > Hyd y gwela i o gyfieithu a rhoi'r treiglad meddal yn ei le > > > *dwy filiwn* geir am y ddau !! > > > Ddylai rhywun beidio treiglo "Biliwn" i roi *dwy biliwn *er > > > mwyn gwahaniaethu?? > > > > > > Diolch > > > Dwynwen > > > > > > > > > ------------------------------------------------------------------ > > ------ > > > No virus found in this incoming message. > > > Checked by AVG Anti-Virus. > > > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release > > > Date: 23/09/2005 > > > > > > > > > > > -- > > No virus found in this incoming message. > > Checked by AVG Anti-Virus. > > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005 > > > > > > > > > > -- > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Anti-Virus. > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005 > > > > -- > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Anti-Virus. > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005 > > >