Dim byd o’i le ar ‘tâl’, ond bod rhaid ei ddefnyddio am ‘charge’, hyd y gwela i.

Mary

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 11 October 2005 10:28
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pay and reward review

 

Ond be sy'n bod ar y gair 'tâl' ?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Mary Jones

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Monday, October 10, 2005 3:26 PM

Subject: Re: pay and reward review

 

Roedd y Swyddfa Gymreig yn hollol hapus defnyddio ‘pae’ yn y gorffennol, gan ei fod yn ddigon cyfarwydd i ni ar lafar. Mae Gwenallt yn sôn am ‘nos Wener pae’ (neu ai nos Sadwrn oedd hi?). Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng ‘salary’ a ‘wages’ a ‘pay’, fel y dywed David, a byddwn i’n bersonol yn ddiolchgar iawn pebai cyfieithwyr yn dechrau arddel ‘pae’ eto. (Enw gwrywaidd unigol, handi, dim angen lluosog).

Mary

10.10.05

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 10 October 2005 14:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pay and reward review

 

Gan fod "pay" yn gallu cynnwys mwy na dim ond cyflog (wythnosol neu fisol), mae yna lawer o gyd-destunau lle mae'n well defnyddio "tâl". Gall eich tâl gynnwys bonws er enghraifft, neu lwfans rheoli, lwfans am eich bod chi'n gweithio yn Llundain, lwfans i brynu dillad arbennig, costau teithio ac ati, er nad yw'r rheiny'n rhan o'ch cyflog. Mae'ch cyflog yn cael ei dalu ichi'n gyson, ond mae'r elfennau eraill yma yn gallu amrywio o'r naill gyfnod i'r llall yn ôl yr amgylchiadau.

 

Rwy'n credu bod y gwahaniaeth rhwng cyflog a mathau eraill o dâl yn gallu bod yn bwysig o ran y dreth sy'n cael ei chodi arnoch chi hefyd, ac felly dyna reswm arall dros wahaniaethu'n ofalus!

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Huw Garan
Sent: 10 October 2005 13:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pay and reward review

Adolygiad o Gyflogau a Gwobrwyo sydd gen i yn fy ngeirfa.

Hg