Diolch yn fawr am yr adborth. Mi fedra i ddychmygu'r math o
sefyllfa. Dwi'n tueddu i gredu, os yw ymadrodd a thueddiad i fod
yn glogyrnaidd, ei fod yn fwy tebygol o fod yn ymadrodd benthyg a dyna
pam mae hi'n amhosib ambell dro i greu cystrawen dwt sy'n llifo'n
naturiol gydag ymadrodd o'r fath.
Dwi'n meddwl mai crafu pen ymhellach fasai orau i mi. Os daw
rhywun ar draws ymadrodd sy'n deud y deud i'r dim, baswn yn ddiolchgar
iawn.
Llawer o ddiolch i bawb am yr adborth
Eluned
On 9/30/05, annes <[log in to unmask]> wrote:
Y drwg efo 'agored i niwed' ydi ei fod yn gallu mynd yn ofnadwy o
glogyrnaidd. Dwi'n cofio cael strach efo fo rywbryd - ers talwm, dwi'm yn
cofio'r union gyd-destun - a roedd ambell i frawddeg agos a bod yn amhosib
ei chyfieithu efo'r ymadrodd 'agored i niwed'.
Annes