Diolch yn fawr am yr adborth. Mi fedra i ddychmygu'r math o sefyllfa. Dwi'n tueddu i gredu, os yw ymadrodd a thueddiad i fod yn glogyrnaidd, ei fod yn fwy tebygol o fod yn ymadrodd benthyg a dyna pam mae hi'n amhosib ambell dro i greu cystrawen dwt sy'n llifo'n naturiol gydag ymadrodd o'r fath. Dwi'n meddwl mai crafu pen ymhellach fasai orau i mi. Os daw rhywun ar draws ymadrodd sy'n deud y deud i'r dim, baswn yn ddiolchgar iawn. Llawer o ddiolch i bawb am yr adborth Eluned On 9/30/05, annes <[log in to unmask]> wrote: > > Y drwg efo 'agored i niwed' ydi ei fod yn gallu mynd yn ofnadwy o > glogyrnaidd. Dwi'n cofio cael strach efo fo rywbryd - ers talwm, dwi'm yn > cofio'r union gyd-destun - a roedd ambell i frawddeg agos a bod yn amhosib > ei chyfieithu efo'r ymadrodd 'agored i niwed'. > > Annes >