Print

Print


Mae modd gadael neges o'r math yma efo BTYahoo! (dw i'n defnyddio BT Yahoo 
yn ogystal ag Outlook Express gan ei fod yn hidlo'r spam yn well).  O dan 
'Options' mae 'na bennawd 'Holiday Response' - mae Catrin wedi defnyddio'r 
dewis hwn yn llwyddiannus (ond peidiwch bawb ag anfon neges ati!)
G
----- Original Message ----- 
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, October 21, 2005 9:31 AM
Subject: Re: Sori - neges amherthnasol i'r rhestr!


Dw i'n amau byddai modd gwneud hyn 'tasai rhywun yn barod i adael y
cyfrifiadur a'r cysylltiad a'r We ymlaen trwy'r amser, ond beth am
ddiogeledd y ty?  Byddai'n hawdd i rywun amheus dderbyn neges a fyddai'n
agrymu'n gryf bod y ty yn wag.

Gyda llaw, gan obeithio ei bod hi'n ddigon saff dweud wrth aelodau'r grwp,
mae'n annhebyg y byddaf yn medru codi negeseuon yn rheolaidd rhwng rwan a
nos Fercher.

Ann
----- Original Message -----
From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 18, 2005 3:15 PM
Subject: Sori - neges amherthnasol i'r rhestr!


> Mae'n ddrwg gen i am 'gamddefnyddio'r' rhestr fel hyn - ond dwi'n trio
> ffeindio allan sut i greu neges i ddweud y byddaf i ffwrdd yr wythnos
nesa.
> Dwi'n gwybod bod rhai ohonoch chi'n eu defyddio, ac yn gobeithio y gallech
> fy nghyfarwyddo! Cewch ateb yn ol i nghyfeiriad ebost i yn lle gwneud
> llanast o'r archifau.
>
> Diolch yn fawr iawn!
> Catrin
> Catrin Alun
> 3 Clos Glanlliw
> Pontlliw
> Abertawe/Swansea
> SA4 9DW
>
> 01792 898327/01792 898222
> ----- Original Message -----
> From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, October 17, 2005 4:28 PM
> Subject: Re: issue = problem
>
>
> Beth fyddai ymateb rhywun digartref i'r cwestiwn hwn???
>
> Helen
>
> Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> > Ydych chi wedi sylwi ar ymlediad y gair 'issue' i olygu 'problem' neu,
yn
> > hytrach, i osgoi defnyddio'r gair 'problem'? 'I don't have an issue with
> > that' neu 'we'd better meet to discuss your financial issues' ac
> > ymadroddion o'r fath. Mae'n debyg mai'r awydd diweddaraf yw osgoi bod â
> > "phroblemau" o unrhyw fath.
> >  Y broblem, y cwestiwn neu'r 'issue' sy'n codi wedyn yw sut mae
> > cyfieithu'r gair 'issue'? A ddylid dweud 'problemau' yn blwmp ac yn
blaen
> > neu chwilio, fel y llefarydd, am ffordd o osgoi defnyddio'r gair drwy
> > ddweud, er enghraifft, 'Dyw hynny ddim yn fy mhoeni i/Dyw hynny ddim yn
> > achosi trafferth i mi'? Ond beth am 'financial issues'? Go brin bod
> > 'materion ariannol' yn cyfleu natur broblemus yr hyn sy'n cael ei
ddweud,
> > ac efallai fod 'trafferthion ariannol' yn rhy ddiflewyn ar dafod. Byddai
> > 'eich sefyllfa ariannol' yn dirionach cynnig, wrth gwrs, ond a ddylem ni
> > chwilio am dirionach ymadrodd bob amser?
> >  A pha eiriau eraill sy'n newid eu hystyr (neu y gwyrdroir eu hystyr)
fel
> > hyn?
> >  Berwyn
>
>
>
> --
> Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
> Canolfan Bedwyr
> [log in to unmask]
> Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
> est/ext 3253 (mewnol/internal)
>
> =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.12.0/134 - Release Date: 10/14/2005
>
>
>