Print

Print


Mae cyfieithu i'r heddlu yn waith diddorol.  Ond weithia mae o'n achosi i ddyn dynnu hynny wallt sydd ganddo ar ôl o'i wreiddia'!
 
"Cafodd dyllu ei chlustiau" sydd gan GyrA am "she had her ears pierced".  Mae hynny'n swnio'n eitha Oce.  
 
Ond am rhyw reswm, byddwn yn ei chael yn anodd rhoi "Cafodd dyllu ei chorff!"
 
Ac mae'r uchod yn rhan o deitl "Tattoos and Body Piercing"
 
Ydi "Tatw^s a Thyllau yn y Corff" yn gweddu? A oes modd llai ych a fi o ddweud hyn?
 
Mae'n siwr nad oes, ond byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod.
 
Diolch
 
John
 
 
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for you co-operation.

North Wales Police