Mae 'sôn am' yn gallu bod yn dwt iawn, e.e. 'it is/was reported' 'mae/roedd sôn bod'. A dyw 'adrodd ar' yn ddim ond trosi geiriau Saesneg eto. Cnocier ef ar ei ben. Ers pryd mae Google yn arbenigwr, beth bynnag! Mary -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg Sent: 16 September 2005 11:01 To: [log in to unmask] Subject: Adrodd ar, Adrodd am Mae Gwgl yn rhoi 16,200 o enghreifftiau o "adrodd ar" a "9,910" o "adrodd am". Oes gwahaniaeth - os oes, beth yw'r gwahaniaeth? A fyddai'n well osgoi defnyddio 'adrodd' o gwbl a defnyddio awgrymiadau Berwyn yn ei eirfa - "to report - rhoi gwybod am, cyflwyno adroddiad(au) ar; they r. improved attendance - fe geir, meddant, well presenoldeb; to r. for work - eu cyflwyno'u hunain i weithio; the circumstances as r.-ed - yr amgylchiadau fel y'u disgrifiwyd (mewn/yn yr adroddiad)" Trafoder (a diolch!). Muiris ---