Print

Print


dwi'n licio'r ddau yma yn well na chwarae duwiol.
Mae chwarae duwiol yn gwneud i mi feddwl am yr hen dduwiau Groegaidd a Rhufeinig hynny yn chwarae gyda'r ddynoliaeth am hwyl - beth yw'r dyfyniad yna am  as flies to wanton boys.........use us for their sport...dwch....?
Dyna ddigon o fwydro: mae chwarae yng nghwmni Duw yn nes at bwrpas gwreddiol y cwrs neu'r dull dan sylw, debyg
ac mae difyrrwch gyda Duw yn well slogan marchnata...
wedi'r cwbl, does fawr o synnwyr yn y Saesneg, mewn gwirionedd, yn nagoes?
magi
  ----- Original Message ----- 
  From: Huw Tegid 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Thursday, September 15, 2005 10:11 AM
  Subject: Re: Godly Play


  Diolch i chi Berwyn.

  Roedd dau gynnig arall wedi eu cynnig i mi hefyd yn y cyfamser - 


  Difyrrwch gyda Duw

  a

  Chwarae yng nghwmni Duw

   
  (Meddyliais am 'Dramâu Duw' fy hunan, ond mae'n debyg fod y 'play' yn y gwreiddiol yn nes at 'chwarae' na 'drama'.)



  Oes un o'r rhain yn ddiffygiol neu'n gamarweiniol ym marn y cylch, ac oes rhywun yn ffafio un ohonynt yn fwy na'i gilydd (a/neu'n fwy na 'chwarae duwiol')?


  Cofion gorau,

  Huw



------------------------------------------------------------------------------
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
  Sent: 14 September 2005 12:46
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: Godly Play


  Wn i ddim a oes 'blas gwawdlyd braidd' ar y gair 'duwiol'. I mi, y broblem fyddai bod 'Chwarae Duwiol' yn rhy agos at 'Chwarae Duw'. Byddwn i - ychydig bach yn groes i'r graen, efallai - yn defnyddio 'Chwarae Duwiol' yn y cyd-destun hwn. Os byddai rhywun yn achwyn amdano, byddwn i'n gofyn 'Oes gennych chi rywbeth gwell i'w gynnig?' - bydd hynny'n rhoi taw ar y mwyafrif o wawdwyr fel rheol. Os digwydd i'r gwawdiwr fod â rhywbeth gwell i'w gynnig, byddwn i'n mabwysiadu'r cynnig hwnnw!

  Berwyn
    ----- Original Message ----- 
    From: Huw Tegid 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Monday, September 12, 2005 3:27 PM
    Subject: Re: Godly Play


    Dwi di meddwl gofyn am farn aelodau'r cylch ers tro am hwn.  Dyma ddiffiniad byr o 'Godly Play'. 
     

    'Godly Play' is a teaching method developed by Jerome Berryman in the United States.  Play is nature's way of extending the child's horizons and understanding of life.  'Godly Play' draws on this natural sense of playfulness and creativity to enable the child to grow spiritually.

     

    Cewch hyd i ragor o wybodaeth ar y we.  Mae'r teitl 'Chwarae Duwiol' wedi'i ddefnyddio unwaith, ond mae blas gwawdlyd braidd ar y gair duwiol, e.e. sych dduwiol etc. 



    Tybed oes gan rywun gynnig gwell, fyddai'n awgrymu gweithgaredd llawn hwyl?



    Huw
  Ymwadiad Ebost
  Ar gyfer y derbynwyr a enwir yn unig y mae'r trosglwyddiad ebost hwn.  Gallai gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol.  Os nad chi yw'r derbyniwr bwriadedig, rhaid i chi beidio â chymryd camau gweithredu'n seiliedig arno, na'i gopïo na'i ddangos i unrhyw berson; byddwch cystal â chysylltu â [log in to unmask] ar unwaith os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad.  Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed sy'n digwydd o ganlyniad i firysau meddalwedd.

  Email Disclaimer
  This electronic mail transmission is intended for the named recipients only.  It may contain private and confidential information, If you are not the intended recipient, you must take no action based upon it, nor must you copy it or show it to anyone; please contact  [log in to unmask]
  immediately if you have received this message by mistake.  We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses.
   



  --
  No virus found in this outgoing message.
  Checked by AVG Anti-Virus.
  Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.10.25/102 - Release Date: 14/09/2005