Print

Print


Mae'r ffaith mai "sugnodd" (nid "sugniodd"), "sugnwyd" (nid "sugniwyd") etc
yn dangos mai "adsugnad" yw'r ffurf orau.

Rwy'n credu bod y duedd i fynnu cael -i- yn deillio o ymwybyddiaeth
siaradwyr y gogledd nad oes -i- yn nhafodieithoedd y de mewn berfau sy'n
cynnwys -i- yn y gogledd (e.e. gwitho/gweithio). O weld "adsugnad" wedyn,
mae ymennydd y gogleddwr yn "ail-greu" ffurf ag -i- ynddi "adsugniad".

Yr un ffenomen rwy'n credu sy'n arwain at ffurfiau gogleddol fel "oel" a
"ffoes" ("ôl" a "ffos" yn y ffurfiau deheuol a safonol).



-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 14 September 2005 00:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Resorption


Mae adsugniad (GyrA) yn swnio'n well i mi.
Dafydd


On Tue, 13 Sep 2005 08:38:46 +0100, David Bullock <[log in to unmask]>
wrote:

>adsugnad
>  -----Original Message-----
>  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Puw, John
>  Sent: 13 September 2005 08:33
>  To: [log in to unmask]
>  Subject: Resorption
>
>
>  Mewn cyd-destun deintyddol.  Ddaru fi ddim prynui'r geiriadur yn
>Llandrindod, a dylwn fod wedi gwneud hynny!
>
>  Beth yw'r term a gynigir yn y geiriadur ar gyfer yr uchod os gwelwch yn
>dda?
>
>  John
>
>
>
>        Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.
>Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir
>ar y rhyngrwyd yn ogystal b'u cynnwys.
>
>        Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y
neges
>hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl
a'i
>gyrrodd wybod a dilkwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu
>ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatbd fod yn anghyfreithlon. Efallai
nad
>yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am
eich
>cydweithrediad.
>
>        Heddlu Gogledd Cymru
>
>        Internet e-mail is not to be treated as a secure means of
>communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity
and
>content.
>
>        This communication is intended for the addressee(s) only.  Please
>notify the sender if received in error and erase from your system.
>Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions
>expressed in this document may not be official policy.  Thank you for you
>co-operation.
>
>        North Wales Police
>
>