Print

Print


Message
Galluedd  ?
 
Daw 84 enghraifft o'r gair hwn i'r amlwg gyda Google.  Rhaid cyfaddef, rwy'n eithaf hoffi'r arfer o fathu ymestyniadau o eiriau sydd eisoes yn bod er mwyn dangos y bu ymestyniad yn yr ystyr.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Glenys M Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, September 07, 2005 11:48 AM
Subject: Re: ymholiad - capacity

Mae 'modd' yn gweithio weithiau - e.e. bod gan gwmni'r modd i gynhyrchu hyn a hyn - ond ddim bob amser o bell ffordd.
Glenys
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Sian Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, September 07, 2005 11:30 AM
Subject: Re: ymholiad - capacity

Mae’r broblem hon yn codi’n aml.

Cefais nodyn o’r Cynulliad beth amser yn ôl yn dweud eu bod yn derbyn y gair  “capasiti” – “weithiau pan fydd raid" ond fydda i’n ceisio osgoi hynny.

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gorwel Roberts
Sent: 07 September 2005 11:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ymholiad

 

Mae gwir angen gair i gyfleu ystyr y gair 'capacity' gan ei fod yn dod i'r fei'n bur aml y dyddiau hyn.  Tydi 'gallu' ddim wastad yn gwneud y tro.  A oes gan rywun awgrym?