Print

Print


Mae diffiniad ar wefan yr 'Oxford Teachers' Club, sef:

"spin-out (also spin-out company) noun a company which is set up by a
university or a larger company to make commercial use of a new technology
that has been developed in research: The research led to the formation of a
spin-out company.  A new spin-out is by definition a risky venture for the
university.  The creation of these new spin-out companies benefits local
economic development.
In order to develop technology which a university or company can then use
for its own needs, the institution can become the partner of a company which
already exists: this is then called a spin-in or spin-in company: The new
fund will be able to invest in spin-in companies.  We support spin-ins -
those companies that wish to work with the University to develop their
product. The nouns spin-out and spin-in can also be written without a
hyphen: Part-time programmer wanted to join this Oxford University spinout
company. Many nouns like these are formed from phrasal verbs that already
exist, and these are related to the noun spin-off, which comes from the
phrasal verb spin (sth) off (from sth)."

----- Original Message ----- 
From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 29, 2005 11:38 AM
Subject: Spinning out


Oes gan rywun syniad beth yw ystyr 'spinning out' mewn perthynas a chwmni?
Mae'r cyd-destun yn awgrymu bod un corff wedi sefydlu'r cwmni, ac wedi ei
drosglwyddo i ddwylo rhywun arall - ond dydy hynny ddim yn amlwg.

Yn ddiweddarach yn y darn, mae'n son am y corff gwreiddiol yn cadw rhan
berchnogaeth o'r cwmni, a dyna sydd wedi awgrymu'r uchod i mi.

Sori os ydy hwn yn amlwg i bawb ond fi!!  Byddwn yn gwerthfawrogi
awgrymiadau - dyma'r frawddeg dan sylw, gan dynnu enwau'r corff/cwmni allan:

During May 2005, xxxx  was successful in spinning out xxxx, a company set up
to ....

Diolch
Catrin


Catrin Alun
3 Clos Glanlliw
Pontlliw
Abertawe/Swansea
SA4 9DW

01792 898327/01792 898222
----- Original Message ----- 
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 29, 2005 8:50 AM
Subject: Re: 2million/2 billion


Nage. Dwyt ti ddim yn arholwr am nad wyt ti ddim yn aelod o CCC.

Mae'r ohebiaeth hon yn dechrau mynd yn annhestunol. Cawn gerydd gan Delyth
cyn hir!

Berwyn


----- Original Message ----- 
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 10:35 PM
Subject: Re: 2million/2 billion


Hm. Faswn i yn rhoi marciau ychwanegol i rywun fyddai'n rhoi "dwy seren"
wrth gyfieithu "2 stars" ...

Ac nid gwgu braidd faswn i, ond gwenu.

Ond dyna fo, dyna pam nad ydw i'n arholwr, mae'n siwr...

Geraint

----- Original Message ----- 
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 4:30 PM
Subject: Re: 2million/2 billion


Fel arholwr, byddwn i'n gwgu braidd, ond yn ymatal rhag tynnu marc os nad
oes rhywbeth arall gerllaw fydd yn gwneud i mi wgu'n fwy!

Berwyn

----- Original Message ----- 
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 3:48 PM
Subject: Re: 2million/2 billion


O^l feri wel, Berwyn, ond gwahaniaeth bach iawn yw rhwng dweud rhywbeth yn
eich pen a dweud rhywbeth yn uchel.  Mae Bruce yn pwysleisio mai ar gyfer 2,
3, 4, ac i ryw raddau 5 a 6, y dylid ystyried ysgrifennu'r rhif yn llawn.
Oni wneir fel hyn, bydd pobl mewn perygl o ddarllen "dau goeden", "pump dyn"
ac ati.  Hefyd, o brofiad personol, mae'n osgoi problemau wrth ddefnyddio
cof cyfieithu.  Os nad oes newid arall mewn brawddeg, mae Trados yn cyfnewid
rhifau heb ofyn ichi ac yn dangos "exact match".  Os oedd gennych "2 dy^" yn
y rhestr flaenorol, fe gewch "3 ty^", ac os oedd gennych "2 bunt", fe gewch
"3 bunt".

Gyda llaw, a fyddi di'n tynnu marciau gen i os dilynaf yr egwyddor hon mewn
arholiad?

Mae "2 biliwn" yn hollol annerbyniol gan Bruce, ac nid yw'n derbyn y
Cynulliad fel awdurdod yn hyn o beth (ac iawn, 'rwyf i [Ann] yn gwybod bod
rhaid ufuddhau i'r cwsmer, ond mae modd dwyn perswad ar y cwsmer hefyd).

Mater arall yw'r dyddiadau.

Cofion gorau,

Ann

----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 2:20 PM
Subject: Re: 2million/2 billion


> Er cymaint y byddai'n well gen i beidio ag anghytuno â Llywydd er
Anrhydedd
> Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, heb sôn am anghytuno ag Elwyn, byddwn i'n
> barnu mai'r cwsmer sydd i benderfynu pa ffurf y mae'n dymuno'i rhoi ar
> ffigurau yn ei destun.
>
> Os yw'n dweud '2 stars', fe roddaf '2 seren' yn fy nghyfieithiad. Os yw'n
> dweud 'two stars', fe roddaf 'dwy seren'.
>
> Os yw'n dweud '23 April 1999' fe roddaf '23 Ebrill 1999', nid 'y trydydd
ar
> hugain o Ebrill mil naw naw naw' er y gall rhai darllenwyr ddweud
> 'twenty-three/dau ddeg tri Ebrill nineteen ninety nine' yn eu meddyliau.
>
> I mi, yr unig eithriadau i'r rheol yw:
>
> 1. sillafu ffigurau pan fydd y sgript i gael ei darllen neu ei recordio a
> bod angen tipyn o arweiniad ar y sawl sy'n ei llefaru, a
>
> 2. pan geir '2 hours' neu '2 days' neu ffurfiau tebyg yn y gwreiddiol. Os
> digwydd hynnny, y ffurfiau cywir, yn fy marn i, yw 'dwyawr', 'deudydd' ac
> ati.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, September 28, 2005 11:41 AM
> Subject: Re: 2million/2 billion
>
>
> Ie, llithriad, mae'n rhaid, fu dynodi biliwn yn fenywaidd yng NgyrA.
>
> I wahaniaethu rhwng "biliwn" a "miliwn" felly, byddai'n gymorth petaem yn
> dilyn anogaeth John Elwyn Hughes a pheidio ag ysgrifennu mewn ffigyrau,
h.y.
> ysgrifennu "dau filiwn" neu "dwy filiwn" yn lle "2 filiwn".  Fel y dywed
ef,
> wrth weld y ffigyrau 2, 3, 4 y tuedd yw dweud "dau", "tri", "pedwar" hyd
yn
> oed o flaen enw benywaidd.
>
> Er hynny, prin fydd y nifer ohonom a all gofio pa un o'r ddau rif sy'n
> wrywaidd a pha un sy'n fenywaidd.  Cymhlethir y mater gan y newid a fu yn
> ystyr "billion".  Yr ystyr gywir yw miliwn miliwn, a dyna a fu'n safonol
yn
> y Deyrnas Unedig.  Er hynny, yn ddiweddar newidiwyd yr ystyr gan ddilyn
> arfer America, i olygu mil o filynau.  Ar gyfer yr ystyr newydd hon, i
osgoi
> unrhyw gamddealltwriaeth, dylid arfer y ffurf "milfiliwn" a restrir yng
NgPC
> fel enw benywaidd (yn betrus), yng Ngeiriadur Edward Anwyl (Spurrrell) ac
> yng NgyrA.  Yr ansoddair cyfatebol fydd "milfiliynfed".
>
> Dyna ddatrys yr anhawster mi gredaf.
>
> Bruce
>
> ----- Original Message -----
> From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, September 28, 2005 8:58 AM
> Subject: Re: 2million/2 billion
>
>
> Ysgrifennodd Dwynwen:
>
> >     Diolch i  chi Muiris a Berwyn am y cyfeiriad i GyG - ond yn fy
> >     marn i mae'r broblem yn dal i godi ar ol *dau *- mae *dau filiwn*
> >     yn  swnio fel defnydd anghywir o'r rhifolyn yn hytrach na
> >     threiglad o *Biliwn .*
> >
> >         Dwi'n cytuno braidd efo  Berwyn - derbyn fod miliwn a biliwn
> >         yn fenywaidd a pheidio treiglo biliwn ar ol dwy oedd fy
> >         ngreddf gyntaf innau i osgoi unrhyw amwysedd neu gamddeall. .
> >
> >         Mi faswn i'n reit hapus i ddefnyddio *dau biliwn* neu *dwy
> >         biliwn*  - o leia mae'r ddau yna yn gneud yn glir mai *biliwn*
> >         olygir.  Ond pa un ddylwn i fynd amdano???
> >         Dwynwen
> >
> >
> >     --- Original Message -----
> >     *From:* Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
> >     *To:* [log in to unmask]
> >     <mailto:[log in to unmask]>
> >     *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 6:15 PM
> >     *Subject:* Re: 2million/2 billion
> >
> >     Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, td. 138, adran 4.8(a):
> >
> >     "Dau enw arall y gall eu ffurfiau orymylu yn sgîl treiglo yw
> >     /biliwn/ a /miliwn/. Ni fydd unrhyw amwysedd pan oleddfir y ddau
> >     hyn gan rifolion,
> >     e.e. biliwn: dau filiwn, tri biliwn, pum biliwn
> >     miliwn: dwy filiwn, tair miliwn, pum miliwn."
> >
> >     Awgryma ymhellach fod modd osgoi amwysedd rhwng biliwn a miliwn os
> >     cânt eu treiglo, a hynny drwy ddweud 'un biliwn' yn lle 'biliwn'
> >     ac 'un filiwn' yn lle 'miliwn'.
> >
> >     Yn anffodus, dyw hynny ddim yn gweithio os defnyddir y rhif: dyw
> >     '2 filiwn' ddim yn ddiamwys. Byddai'n rhaid dweud '2 biliwn'.
> >
> >     Mae Geiriadur y Brifysgol, y Geiriadur Cymraeg Cyfoes a'r
> >     Termiadur yn cytuno â Peter mai gair gwrywaidd yw 'biliwn', ond yn
> >     groes i hynny dywed Geiriadur yr Academi mai gair benywaidd ydyw
> >     (os felly, byddwn i'n dweud 'dwy biliwn').
> >
> >     Rwy'n teimlo 'mod i wedi gwneud y tywyllwch yn dywyllach byth! Pa
> >     Gymro neu Gymraes welai'r gwahaniaeth enfawr rhwng '*dwy* filiwn'
> >     a '*dau* filiwn'? Os yw 'miliwn' yn fenywaidd, pam y dylai
> >     'biliwn' fod yn wrywaidd? Oni fyddai'n well i'r ddau enw fod yn
> >     fenywaidd a pheidio â threiglo 'biliwn' ar ôl 'dwy'?
> >
> Wow! Peth peryg iawn yw rhagnodi cenedl enw, gan fod treiglo yn rhywbeth
> sy'n digwydd yn reddfol i siaradwyr Cymraeg rhugl. Lle ceir tystiolaeth
> fod gair yn cymryd cenedl arbennig yn yr iaith, dylid glynu at hynny. Yn
> achos 'biliwn' mae enghraifft Geiriadur Prifysgol Cymru yn dyddio o 1725
> ac yn nodi 'biliwn neu ddau' yn ddiamwys. Mae'n bosib mai llithriad yw
> nodi 'biliwn' fel benywaidd yng Ngeiriadur yr Academi, ac nid yw'n
> ddigon o dystiolaeth ar ei ben ei hun i newid cenedl gair. Y mwyaf y
> gellid gwneud os daw tystiolaeth o rywle arall y gall 'biliwn' fod yn
> fenywaidd hefyd yw ei nodi fel enw gwrywaidd/benywaidd. Yn y cyfamser,
> mae'n well peidio 'biliwn' lle byddai'n achosi amwysedd.
>
> Delyth
>
> >
> >     Ond pwy ydw i i ddeddfu?
> >
> >     Berwyn
> >
> >         ----- Original Message -----
> >         *From:* Dwynwen <mailto:[log in to unmask]>
> >         *To:* [log in to unmask]
> >         <mailto:[log in to unmask]>
> >         *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 5:31 PM
> >         *Subject:* 2million/2 billion
> >
> >         Tybed fedrwch chi helpu.
> >         Isio gwahaniaethu rhwng 2 million a 2 billion yn Gymraeg
> >          Hyd y gwela i o gyfieithu a rhoi'r treiglad meddal yn ei le
> >         *dwy filiwn* geir am y ddau !!
> >         Ddylai rhywun beidio treiglo "Biliwn"  i roi *dwy biliwn *er
> >         mwyn gwahaniaethu??
> >
> >         Diolch
> >         Dwynwen
> >
> >
>
  ------------------------------------------------------------------
> ------
> >         No virus found in this incoming message.
> >         Checked by AVG Anti-Virus.
> >         Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release
> >         Date: 23/09/2005
> >
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005
>
>
>



-- 
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005



-- 
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005


-- 
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.7/112 - Release Date: 9/26/2005