Annwyl Annes,
Mae'n ddrwg gen i am yr oedi. Mae gen i ateb
dros dro i'w deipio dros Bruce, ond wedi gorfod treulio'r bore yn ymladd a'r
cyfrifiadur a'r argraffydd. Yn y cyfamser a elli di gadarnhau canlyniadau
f'ymchwil neithiwr.
'Deallaf fod y darn yn gerddoriaeth offerynol yn
seiliedig ar flodau cloc blodau Linnaeus. Ai nodiadau rhaglen sydd gen
ti? Allan o ba iaith wyt ti'n cyfieithu? A oes modd gweld y
*gwreiddiol*, o ran y *ddau* ymholiad, yn union fel yr oedd yn sefyll cyn
iti ddechrau ymchwilio a chyfieithu? A yw enwau Lladin y blodau yn y
gwreiddiol?
Diolch,
Ann
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, August 09, 2005 5:47
PM
Subject: catch me if you can
Dyma'r cyd-destun - sori, mi ddylswn fod wedi'i
roi yn y lle cynta:-
Mae’r gerddoriaeth yn symud yn chwim i naw o’r
gloch a’r Silene noctiflore (gludlys nosflodeuol), blodyn sy’n dal
pryfed diarwybod, gan ennyn gan Françaix fyrdwn siriol "catch-me-if-you-can".
Faswn i
wedi rhoi cynnig ar fathu enwa'r bloda na ond dwi'n cofio Bruce yn un o
gynadledda'r Gymdeithas yn son am beryglon bathu enwa bloda ayyb
Diolch
am eich help
Annes