Print

Print


Gellwch chi ddychmygu cymaint o hwyl gafodd fy mam oedd yn ddi-Gymraeg pan ddaeth hi i'r ardal am y tro cyntaf a gweld yr arwydd.....a sut yr oedd hi'n mynnu ynganu'r enw bob tro...
  ----- Original Message ----- 
  From: Geraint Løvgreen 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Wednesday, August 24, 2005 9:30 AM
  Subject: Re: Gwauncaegurwen


  Mwy o groeso na Penis ar Waun mae'n siwr.
    ----- Original Message ----- 
    From: John Puw 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Tuesday, August 23, 2005 11:11 PM
    Subject: Re: Gwauncaegurwen


    Tybed fydde Pen Isa'r Waun yn cael croeso?
      ----- Original Message ----- 
      From: Geraint Løvgreen 
      To: John Puw 
      Sent: Tuesday, August 23, 2005 6:40 PM
      Subject: Re: Gwauncaegurwen


      Ie, pwy ydi'r 'rhywun' ma sy'n gwybod yn well, tybed?

      Mae'n well gen i "Gwauncaegurwen" fy hun. Be nesa - Rhos Llannerch Rugog?
        ----- Original Message ----- 
        From: Berwyn Jones 
        To: [log in to unmask] 
        Sent: Tuesday, August 23, 2005 4:46 PM
        Subject: Re: Gwauncaegurwen


        Mae 'Cefncoedycymer' bellach yn 'Cefn Coed y Cymer' ar yr arwydd ar yr A470 ger Merthyr. Mae'n amlwg bod hyn yn rhan o batrwm. Egwyddor y Gazetteer oedd rhoi enwau lleoedd fel un gair ond eithrio enwau mynyddoedd, dyffrynnoedd ac ati, pan oedd yr elfen gyntaf yn enw ar nodwedd ddaearyddol, rhag dilyn y rheol honno.

        Mae'n amlwg bod rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod yn well na phwyllgor a gynhwysai'r Athro Henry Lewis, yr Athro Thomas Jones, yr Athro Melville Richards , R J Thomas a'r Athro G J Williams ... Ar y llaw arall, mae gweld 'Cefncoedycymer' ar arwydd yn tueddu i roi cric yng ngwddwg dyn!

        Flynyddoedd yn ôl, roedd gan y Swyddfa Gymreig bwyllgor enwau lleoedd i'w chynghori ynghylch pa ffurfiau y dylid eu rhoi ar arwyddion ffyrdd. Mae'n eitha posib mai ffrwyth argymhellion y pwyllgor hwnnw yw'r ffurfiau 'newydd' a welwn ni ar arwydddion heddiw.

        Berwyn
          ----- Original Message ----- 
          From: Geraint Løvgreen 
          To: [log in to unmask] 
          Sent: Tuesday, August 23, 2005 2:59 PM
          Subject: Gwauncaegurwen


          Un gair ydi hwn yn ol y Rhestr o Enwau Lleoedd, ond am ryw reswm mae'r Cynulliad yn ei roi fel tri gair ar wahân. Oes yna reswm?


----------------------------------------------------------------------


          No virus found in this incoming message.
          Checked by AVG Anti-Virus.
          Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.10.14/79 - Release Date: 22/08/2005



------------------------------------------------------------------------------


  No virus found in this incoming message.
  Checked by AVG Anti-Virus.
  Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.10.15/80 - Release Date: 23/08/2005