Print

Print


Mae gen i gopi o hyd o restr argymhellion y pwyllgor enwau lleoedd oedd gan y Swyddfa Gymreig i gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar ffurfiau enwau i'w codi ar arwyddion. Byddai swyddogion y Swyddfa Gymreig yn troi at y pwyllgor pan fyddai amheuaeth ynglyn â'r ffurf briodol, i gael arweiniad neu esboniad ar hanes a tharddiad enwau.
 
Mawrth 1988 yw'r dyddiad ar y rhestr, ac (yn rhyfedd ddigon yn fy marn i) mae "Cefn Coed y Cymer" arni. Efallai mai nodwedd ddaearyddol oedd y cefn dan sylw ym marn aelodau'r pwyllgor, sef yr Athro Gwynedd Pierce a Tomos Roberts rwy'n credu. Rwy'n meddwl hefyd mai dim ond argymhellion sy'n wahanol i ffurfiau'r Gazetteer sydd wedi'u cofnodi yn y rhestr.
 
O sôn am yr A470 yn ardal Merthyr, fe fynnodd Cyngor Merthyr fod rhaid cael Abercanaid yn Saesneg yn ogystal â'r ffurf Gymraeg gywir Abercannaid... achos bod pobl yn mynd ar goll wrth chwilio am y lle ag un 'n' yn y canol. Stori wir!
 
 
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 23 August 2005 16:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Gwauncaegurwen

Mae 'Cefncoedycymer' bellach yn 'Cefn Coed y Cymer' ar yr arwydd ar yr A470 ger Merthyr. Mae'n amlwg bod hyn yn rhan o batrwm. Egwyddor y Gazetteer oedd rhoi enwau lleoedd fel un gair ond eithrio enwau mynyddoedd, dyffrynnoedd ac ati, pan oedd yr elfen gyntaf yn enw ar nodwedd ddaearyddol, rhag dilyn y rheol honno.
 
Mae'n amlwg bod rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod yn well na phwyllgor a gynhwysai'r Athro Henry Lewis, yr Athro Thomas Jones, yr Athro Melville Richards , R J Thomas a'r Athro G J Williams ... Ar y llaw arall, mae gweld 'Cefncoedycymer' ar arwydd yn tueddu i roi cric yng ngwddwg dyn!
 
Flynyddoedd yn ôl, roedd gan y Swyddfa Gymreig bwyllgor enwau lleoedd i'w chynghori ynghylch pa ffurfiau y dylid eu rhoi ar arwyddion ffyrdd. Mae'n eitha posib mai ffrwyth argymhellion y pwyllgor hwnnw yw'r ffurfiau 'newydd' a welwn ni ar arwydddion heddiw.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Løvgreen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 23, 2005 2:59 PM
Subject: Gwauncaegurwen

Un gair ydi hwn yn ol y Rhestr o Enwau Lleoedd, ond am ryw reswm mae'r Cynulliad yn ei roi fel tri gair ar wahân. Oes yna reswm?


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.10.14/79 - Release Date: 22/08/2005