Print

Print


Diolch i chi Ann.  Byddai rhai'n galw'r arfer yn ailgylchu ar ei orau, dwi'n siwr.  Sylwais ar safle Wikipedia fod gwyddor arbennig yn gysylltiedig â'r arfer, sef 'garbology' (sbwrieoleg, efallai?) - er, byddai'r "sbwri-helwyr" mwyaf dygn yn dadlau nad sbwriel yw'r hyn maent yn ei casglu.  Tybed a fydd ambell un yn llechu fel gwylanod uwch ben cwch pysgota wrth i'r stondinwyr bacio ar Stad y Faenol bnawn Sadwrn, er enghraifft?


Huw
Swyddog Llinell Gyswllt â'r Gymraeg  /  Linkline to Welsh Officer  -  http://www.llinellgyswllt.com/

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 August 2005 11:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Skip Diving

Dim cysylltiad uniongyrchol a'r cais, ond yr ymadrodd yn Awstralia ar gyfer "car boot" yw "swap meet".  Dw i'n meddwl eu bod hwythau hefyd, ar wahan i hynny, a rhyw drefn o roi pethau nad oes eu hangen wrth ymyl y ffordd ar adegau penodol, er mwyn i eraill godi unrhywbeth maen nhw'n ei ffansio.
Hwyl, ynteu?
Ann

----- Original Message -----
From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 03, 2005 10:31 AM
Subject: Skip Diving


> Derbyniais yr ymholiad difyr yma heddiw.
>
> "
> Tybed a oes gair Cymraeg sy'n cyfateb i "skip diving" (neu "dumpster
diving", yn nhafodiaeth yr UDA) ?
>
> http://en.wikipedia.org/wiki/Dumpster_diving
>
> "
>
> Y cyd-destun yw fod pobl yn taflu popeth nad oes arnynt eu hangen o'r
neilltu heddiw, tra bod eraill yn gweld gwerth yn y 'sbwriel' a waredir ac yn mynd ar ei ôl.  Sgwn i oes rhywun wedi cyfieithu'r ymadrodd rhywdro?
>
> Os nad oes, beth am rywbeth fel 'sbwri-hela / hela sbwriel ?
>
>
>
> Huw
> Swyddog Llinell Gyswllt â'r Gymraeg  /  Linkline to Welsh Officer  -
http://www.llinellgyswllt.com/
>
> --
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.9.9/62 - Release Date: 
> 02/08/2005
>
>
> Ymwadiad Ebost
> Ar gyfer y derbynwyr a enwir yn unig y mae'r trosglwyddiad ebost hwn.
Gallai gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol.  Os nad chi yw'r derbyniwr bwriadedig, rhaid i chi beidio â chymryd camau gweithredu'n seiliedig arno, na'i gopïo na'i ddangos i unrhyw berson; byddwch cystal â chysylltu â [log in to unmask] ar unwaith os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad.
Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed sy'n digwydd o ganlyniad i firysau meddalwedd.
> 3/8/2005
>
> Email Disclaimer
> This electronic mail transmission is intended for the named recipients
only.  It may contain private and confidential information, If you are not the intended recipient, you must take no action based upon it, nor must you copy it or show it to anyone; please contact [log in to unmask] immediately if you have received this message by mistake.  We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses.
> 3/8/2005
>
>
>

--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.9.9/62 - Release Date: 02/08/2005
 

-- 
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.9.9/62 - Release Date: 02/08/2005