Efo "actively contributing", dwi'n amau mai'r ystyr ydi eu bod nhw'n cyfrannu trwy wneud rhywbeth , yn hytrach na chyfrannu'n ariannol, dyweder. Yn yr achos penodol yma, efallai mai "cyfrannu'n weithredol" sy'n iawn (am unwaith). Dyma un achos lle mae'r gair "actively" yn fwy na gair llanw diystyr, o bosib!
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">bryn rowlands
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, August 22, 2005 2:06 PM
Subject: Re: actively

Diolch yn fawr un ac oll. Credaf mai 'mynd ati i gyfrannu' a wna'r ysgolion sydd dan sylw gennyf, oni fyddant yn 'cyfrannu'n bendant'. Maerhyw ddewis i'w wynebu o hyd!
 
Bryn

Berwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:
Dyma'r cyfieithiadau rwyf wedi'u casglu dros y blynyddoedd:
 

active - gweithgar, ar waith; giving a. consideration to – wrthi’n ystyried; a. steps - camau pendant; to give a. attention to ... – rhoi sylw manwl i ...

actively: a. considering – wrthi’n ystyried; to be a. engaged in the pursuance of – wrthi’n; these

a. encourage pupils to – mae’r rhain yn annog (y) disgyblion i; to welcome ... a. - croesawu ... yn

frwd; actively: a. -listening to - (wrthi’n) gwrando’n astud ar; to work a. - gweithio’n

ddyfal/ddiwyd/galed

 

I mi, mae ychwanegu 'wrthi' yn cymreigio naws y dweud am ei fod mor idiomatig ac yn

osgoi'r elfen ffuantus sy'n perthyn i 'actively' yn Saesneg. (Mae gan Robin Williams ysgrif

yn rhywle sy'n sôn am y ffordd y caiff y gair bach hwn ei ddefnyddio. Teitl yr ysgrif yw

'Wrthi' ...)

 

Efallai fod hyn yn gyfle da i ddweud bod fy ngeirfâu ar www.cyfieithwyrcymru.org.uk wedi'u

diweddaru erbyn hyn a bod croeso i bawb eu defnyddio. Mae sawl darlith ac ati i'w gweld

ar y wefan hefyd.

 

Berwyn

----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">bryn rowlands
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, August 22, 2005 12:08 PM
Subject: actively

Maddeuwch fy anwybodaeth - mae'n siwr fod enghreifftiau lu yn yr archifau - yr hyn sy'n fy mhoeni ar hyn o bryd yw 'ensuring that schools contribute actively'
 
Mae gennyf hefyd 'actively seeking' ac 'active listening'
 
Bryn


To help you stay safe and secure online, we've developed the all new Yahoo! Security Centre.


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.10.13/78 - Release Date: 19/08/2005


Yahoo! Messenger NEW - crystal clear PC to PC calling worldwide with voicemail