----- Original Message -----
Sent: Tuesday, August 16, 2005 8:36
AM
Subject: fast track
Mae gen i'r slogan 'Get on the fast track:
careers in the motor industry' i'w gyfieithu. Y cynnig gorau sy gen i hyd yn
hyn yw 'Y llwybr cyflym i chi: gyrfaoedd yn y diwydiant moduron'.
O dan y slogan mae tri llun: (i) o gar yn
mynd drwy dwnnel hir sydd wedi'i oleuo (fel twnnel Conwy), (ii) o ddyn yn
gyrru car di-do a merch yn y cefn yn sefyll ar ei thraed a'i breichiau'n
chwifio'n llawen yn yr awyr (beth ddwedai pobl iechyd a diogelwch?), a
(iii) llun o draffordd wag wedi'i goleuo wedi nos.
Dyma ganllawiau'r cwsmer: "the wording 'Get on
the fast track' is rather important, as we intend to use this in the long term
as our careers branding - and perhaps move towards 'the fast track' as our
careers branding, booking for example 'thefastrack.co.uk' as a url.
Therefore it would help if we could preserve this notion somehow in the Welsh,
though the phrase 'Get on' is less crucial."
Rwyf eisoes wedi rhoi cynnig ar 'Mentrwch i'r
llwybr cyflym', 'Rhuthrwch amdani', 'Bant â'r cart' (!) a 'Carlamu/Carlamwch
ymlaen/yn eich blaen', ond i mi mae 'Y llwybr cyflym i chi ...' yn rhagori
anyn nhw am fod 'Gyrfaoedd yn y diwydiant moduron' fel petai'n rhedeg yn
esmwythach ar ei ôl ac am fod 'yllwybrcyflym' yn ddigon posib fel
url.
Unrhyw gynigion?
Berwyn