Does gen i ddim syniad beth yw'r cyfieithiad cywir ond os yw o ryw
ddefnydd, mae rhybudd rhan 106 yn rhoi cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol pan
fyddont yn caniatau i ddatblygwr adeiladu tai neu fflatiau, i ystyried yr
angen i gynnwys hyd at 20% o dai fforddadwy ( wedi eu rhentu neu bryniant cost
isel) o fewn unrhyw ddatblygiad dros 80 o anedd-dai.
Mae adrannau cynllunio yn aml yn siarad am 'commuted housing
payments' gan olygu taliadau a wneir gan ddatblygwr i osgoi eu
cyfrifoldebau am ddarparu yr 20% yma. Gall felly fod yn rhyw swm a delir yn lle
darparu anedd-dai i bobl lleol, ond yn lle hynny darparu ystafelloedd i ymwelwyr
- neu efallai i'r gwrthwyneb??
- dim ond y cynllunwyr eu hunain sy'n gwybod yr amgylchaidau all roi
goleuni, mi dybiaf
Alwyn