Print

Print


Wel, dwi'n meddwl mai'r syniad oedd mai "cefn" h.y. asgwrn cefn ydoedd, yr 
un peth â "trunk" yn Saesneg. Roedd cefnffordd yn awgrymu ffordd gefn i 
minnau, ond mi ddes i i arfer gyda'r peth. Ac mae hanes parchus i'r gair fel 
y gwelwch yng Ngeiriadur y Brifysgol tud 447.

Mae gen i gof bod angen gwahaniaethu rhwng 'link road' (ffordd gyswllt) a 
'connecting road' (ffordd gysylltu) ar un adeg hefyd.

Geraint

----- Original Message ----- 
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, August 12, 2005 12:42 PM
Subject: Re: Trunk Road


Mae'n bosib mai penderfyniad yr asiantaeth ei hun, neu ei chyfieithwyr
anwybodus / penderfynol, yw defnyddio 'prif ffyrdd' yn lle 'cefnffyrdd' ac
mai'r cyfan sydd yn Term Cymru yw cofnod o hynny. Yn fy nyddiau i yn y
Swyddfa Gymreig, 'ffordd gysylltu' ddywedem ni am 'trunk road', ond
penderfynwyd, ar ôl i mi adael, ddilyn arfer Cyngor Sir Gwynedd a dweud
'cefnffordd'.

Ar ba sail y penderfynwyd arfer 'cefnffordd' yng Ngwynedd, wn i ddim. I mi,
mae'n golygu 'ffordd gefn'. Os bwriedir ffurfio cwlwm newydd o elfennau mewn
term, fe ddylai gyfleu rhywfaint o ystyr y term: dyw 'cefnffordd' ddim yn
gwneud hynny.

Gyda llaw, 'ffordd gyswllt' ddefnyddiem ni am 'link road'.

Tybed a allai Geraint esbonio bathiad rhyfedd y cesys oedd yng Ngwynedd nôl
yn y dyddiau cynnar?

Berwyn

----- Original Message ----- 
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, August 12, 2005 11:35 AM
Subject: Trunk Road


> Dyma ffaith fach diddorol 'rwyf newydd ei ddarganfod o DermCymru.
>
> 'Roeddwn i eisoes yn gwybod bod y Cynulliad yn defnyddio "cefnffordd" ar
> gyfer "trunk road", a "phriffordd" ar gyfer "highway", ac wedi dilyn yr un
> arfer.  Ond yn awr gwelaf - o DermCymru eto - nad yw'r "Trunk Road 
> Agencies"
> eu hunain yn dilyn yr arfer hon, e.e. Asiantaeth Prif Ffyrdd (dau air)
> Gogledd Orllewin Cymru".
>
> Dim awgrymiadau na sylwadau gen i, jyst ffaith fach syml i sirioli'ch
> diwrnod.
>
> Ann
>
>
>
> -- 
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.10.7/70 - Release Date: 11/08/2005
>
>