Print

Print


Does gen i ddim syniad beth yw'r cyfieithiad cywir ond os yw o ryw  ddefnydd, 
mae rhybudd rhan 106 yn rhoi cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol pan  fyddont yn 
caniatau i ddatblygwr adeiladu tai neu fflatiau, i ystyried yr  angen i 
gynnwys hyd at 20% o dai fforddadwy ( wedi eu rhentu neu bryniant cost  isel) o fewn 
unrhyw ddatblygiad dros 80 o anedd-dai.
 
Mae adrannau cynllunio yn aml yn siarad am 'commuted housing  payments' gan 
olygu taliadau a wneir gan ddatblygwr i osgoi eu  cyfrifoldebau am ddarparu yr 
20% yma. Gall felly fod yn rhyw swm a delir yn lle  darparu anedd-dai i bobl 
lleol, ond yn lle hynny darparu ystafelloedd i ymwelwyr  - neu efallai i'r 
gwrthwyneb?? 
 
- dim ond y cynllunwyr eu hunain sy'n gwybod yr amgylchaidau all roi  
goleuni, mi dybiaf
 
Alwyn