Print

Print


Dw i'n cyfieithu dogfen iechyd a dw i isio cyfieithu'r gair 'overweight' - enw nid ansoddair. Erbyn hyn mae meddygon  ac arbenigwyr iechyd yn gwahaniaethu'n reit fanwl rhwng 'overweight' ac 'obesity' ac mae ganddynt graffiau a thablau i ddangos lle mae'r ffin. Mae Cysgair yn rhoi gorbwysedd am 'overweight' ( a 'gordewdra' am 'obesity') ond gan fod 'gorbwysedd' hefyd yn cael ei ddefnyddio am 'hypertension' dw i'n gweld bod posib cymysgu rhwng y ddau. Mae'r ddogfen yma'n trafod iechyd y boblogaeth yn gyffredinol ac yn rhoi rhestrau o wahanol gyflyrau iechyd cyffredin felly tydi'r cyd-destun ddim bob amser yn egluro'r gwahaniaeth. 

Diolch Sylvia.