Print

Print


Mae'r cynllun uchod yn rhan o waith Llywodraeth y Cynulliad yn ôl yr awdur.  Ond wela i ddim son amdano yn TermCymru.  Mae yno:
 
community regeneration play scheme
cynllun chwarae adfywio cymunedol
 
Five Counties Regeneration Scheme
Cynllun Adfywio'r Pum Sir
 
Yr unig beth dan "physical regeneration" yw
 
Physical Regeneration Fund
Y Gronfa Adfywio Ffisegol
 
A all rhywun fy nghyfarwyddo. Rwy'n sicr nad cynllun chwarae sydd dan sylw, ond pa bum sir?  Ydi Sir Conwy yn un ohonyn nhw? A yw'r awdur wedi camgymeryd rhwng scheme a fund? Neu ai fi sy'n gweld bwganod?
 
Yr holl gwestiynau sydd gennyf, a dim atebion. 
 
Ho hym
 
Diolch os yw rhywun yn gwybod
 
John

Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.

North Wales Police