Er gwybodaeth, dyma ymateb CBAC i'r drafodaeth yn y cylch ddoe a anfonwyd yn uniongyrchol at John Williams hefyd: Diolch i chi am dynnu'n sylw at gyfieithiad y gair "stakeholders". Achosodd gryn drafodaeth yn ystod y bore ac o ganlyniad rydym wedi penderfynu mabwysiadu'r term "rhanddeiliaid" ym mhapurau Economeg ac Astudiaethau Busnes yn benodol ac unrhyw bapurau eraill yn ôl yr angen o 2006 ymlaen. Mae hyn yn gyson â Term Cymru a'r Termiadur Ysgol newydd. Fe gaiff manylebau CBAC eu diwygio yn ogystal. Hywel Jones Uwch Reolwr (Cyfrwng Cymraeg) Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 12 May 2005 12:36 To: [log in to unmask] Subject: Re: stakeholders O edrych ar y we, mae'n ymddangos bod categori o 'rights holders' yn bod, sef 'hawl-ddalwyr', mae'n debyg. Mae'r pennawd 'DISCUSSION PAPER: SPECIAL BULLETIN #6: From Stakeholders to Rights Holders: Participation of Communities in the Kuala Lumpur Biodiversity Negotiations' yn awgrymu bod gwahaniaeth pendant rhyngddynt. Does dim yn GNG am 'rights holder'. Berwyn ----- Original Message ----- From: "Geraint Løvgreen" < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> To: < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> Sent: Thursday, May 12, 2005 12:14 PM Subject: Re: stakeholders "rhanddeiliaid" sydd yn Term Cymru (statws 1) gan y Cynulliad. Mae "budd-ddeiliaid" yn derm dealladwy sydd wedi ennill ei blwyf hefyd. Be sy'n bod ar CBAC yn trio cymhelthu'r dyfroedd eto fyth? Ddylai rhywun gael gair bach efo nhw? ----- Original Message ----- From: "John Williams cyfieithydd YMLL" < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> To: < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> Sent: Thursday, May 12, 2005 12:19 PM Subject: stakeholders Mae sôn am gemeg yn f'atgoffa i o 'fume-cupboards' a dwi'n 'fuming mad' oherwydd y cyfieithiad o'r gair stakeholders. Dwi newydd orffen cyfieithu tri llyfr Astudiaethau Busnes Lefel A a dewisais 'budd-ddeiliaid' am stakeholders, lle gynt defnyddiai rhai hapddalwyr. Credais mai budd-ddeiliaid oedd hoff ddewis CBAC. Dwi newydd gael rhywun i mewn yma yn gofyn i mi newid pob un - 150 o dudalennau, a rhoi hawl-ddalwyr yn eu lle gan mai dyna'r term mae CBAC yn ei ffafrio erbyn hyn. All rhywun o blith y 'powers that be' fy ngoleuo plis? Mr John D Williams Ysgol Morgan Llwyd Cyfieithydd Ysgol Sir Wrecsam ______________ ______________ ______________ ______________ Sent via the WCBC Schools Email system at ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination, forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions and other information in this message that do not relate to the official business of Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol. * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * -- Internal Virus Database is out-of-date. Checked by AVG Anti-Virus. Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.0 - Release Date: 29/04/05 -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Anti-Virus. Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.8 - Release Date: 10/05/2005 DISCLAIMER This message may contain privileged or confidential information. If you are not the intended recipient or person responsible for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that any dissemination or copying of this message and its attachments is strictly prohibited. If you have received this message in error, please notify the network administrator by sending an email to [log in to unmask] Please then delete this message (and its attachments) and destroy any copies of it. Internet communications are not secure and therefore WJEC does not accept legal responsibility for the contents of this message. Any views or opinions expressed in this message are solely those of the author and not necessarily those of WJEC, unless otherwise specifically stated. Please note that WJEC may intercept incoming and outgoing email communications. YMWADIAD Efallai y bydd y neges hon yn cynnwys gwybodaeth freintiedig neu gyfrinachol. Os nad y chi yw'r derbynnydd arfaethedig neu'r person sy'n gyfrifol am ei chyflwyno i'r derbynnydd arfaethedig, fe'ch hysbysir bod unrhyw ledaenu neu gopïo'r neges hon a'r hyn a gysylltir wrthi wedi'i wahardd. Os ydych wedi derbyn y neges hon trwy gamgymeriad, dylech hysbysu gweinyddwr y rhwydwaith trwy e-bost at [log in to unmask] Dylech wedyn ddileu'r neges hon (a'r hyn a gysylltir wrthi) a dinistrio unrhyw gopïau ohoni. Nid yw cyfathrebiadau rhyngrwyd yn ddiogel ac felly nid yw CBAC yn derbyn cyfrifoldeb cyfreithiol am gynnwys y neges hon. Safbwyntiau neu farn yr awdur yn unig yw'r rhai a fynegir yn y neges hon ac nid ydynt o angenrhaid yn adlewyrchu safbwyntiau neu farn CBAC, oni nodir hynny'n benodol. Gofynnir i chi nodi y gall CBAC atal cyfathrebiadau e-bost mewnol neu allanol.