Ddaeth y cyfarwyddyd hwn yn un o'r 'Bwletinau Terminoleg ac Arddull' sy'n cael eu hanfon bob yn awr ac yn y man i gyfieithwyr allanol y Cynulliad. Wn i ddim a yw'r cyfarwyddiadau yn cael eu gosod mewn man cyhoedus ar y we - byddai'n dda pe bai hynny'n digwydd. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Gareth A. Bevan Sent: 25 May 2005 09:42 To: [log in to unmask] Subject: Re: Y ynteu y? >Mae'r cynulliad yn argymell fel a ganlyn: > >"Gyda llythyren fach yr ysgrifennir y fannod mewn teitlau neu enwau lleoedd >yng nghanol brawddeg, e.e. >'Gwelais ef yn y Bala', nid 'Gwelais ef yn Y Bala'" Ble mae'r cyfarwyddiadau hyn i'w cael? Byddai'n ddiddorol gweld beth arall sydd yno. Gareth