Ydy'r teitl yn cyfeirio at siaradwyr Cymraeg yn benodol? Falle y byddai 'Siaradwyr Cymraeg sy'n ceisio am le yn CBCDC' yn gwneud y tro? Catrin ----- Original Message ----- From: "annes" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, May 06, 2005 1:49 PM Subject: Cymraeg a Chymreig > Yn rhyfedd iawn, ges i ffrae am hyn ddoe - rhyw benbwl o gynlluniwr > busneslyd isio newid logo Artist y Flwyddyn Cymru yn Artist Cymreig y > Flwyddyn (ar ol i mi dreulio 3 blynadd yn cael ganddyn nhw ei newid yn y > lle cynta). Roeddwn i'n gandryll - nid yn unig am ei fod yn anghywir ond > hefyd am i'r pen dafad, mae'n debyg (doeddwn i ddim yn cyfathrebu ag o'n > uniongyrchol), ddeud na doedd o 'ddim yn gyfieithiad llythrennol'. Wna i > ddim pregethu - fedrwch chi i gyd ddallt pam on i wedi gwylltio gymaint ar > 2 lefel. Ta waeth ar ol ebost eirasboeth mae'r broblem wedi'i datrys. > > Newydd gael teitl i'w gyfieithu y mae peryg iddo fod yn glogyrnaidd. > 'Welsh > applicants to RWCMD'. Tybad ai 'Ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith am le yn > CBCDC' > fyddai'n taro orau yn y cyd-destun yma? Neu 'Cymry Cymraeg sy'n gwneud > cais > am le yn CBCDC'? Mae 'applicants to' ynddo'i hun yn boen - mae gofyn rhoi > 'am le' decini? Diolch am unrhyw gyngor. > > Annes > > > -- > No virus found in this incoming message. > Checked by AVG Anti-Virus. > Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.5 - Release Date: 5/4/2005 > >