Mae ‘arfarnu’ yn un enghraifft o beidio ag ailadrodd, e.e. ‘arfarnu prosiect’. Garmon Garmon Davies Ewrolingo +44 (0) 1656 668603 www.ewrolingo.co.uk -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 13 April 2005 13:04 To: [log in to unmask] Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi' Daeth ymateb oddi wrth Pat Donovan, Cyd-Olygydd Geiriadur y Brifysgol: "1 Dim ond ychydig o arweiniad sydd yn slipiau'r Geiriadur: un enghraifft o'r `hen' slipiau (1864) - arsylwi ar; un enghraifft o'r slipiau newydd (1984) - arsylwi ar; a nodyn gan BPJ yn rhoi ei farn ar y mater (welsh-termau-cymraeg 2003) ac yn ffafrio `arsylwi', ond yn betrus. "2 Cannoedd o enghreifftiau ar Google; heb edrych (ar) p/bob un wrth gwrs, ond fe ddywedwn i fod y glorian yn eithaf gwastad: e.e. tua 30 o enghreifftiau bob un o'r ymadrodd `arsylwi gwersi / arsylwi ar wersi'. "3 Wedi holi `Cymry da' yn y Geiriadur a'r Ganolfan, mae 5 yn ffafrio `arsylwi ar' a'r chweched heb farn (ond yn wfftio at y gair!) "4 Pe bawn i'n ysgrifennu'r erthygl ar y gair ar gyfer GPC heddiw, rwy'n sicr mai'r cofnod ar gyfer y rhan ymadrodd fyddai `bg. a'i dilyn gan yr ardd. ar, a hefyd fel ba.'. "Dwy i ddim yn meddwl ei bod hi'n bosibl deddfu ar hyn o bryd. Mae P(atrick) J D(onovan) a G(areth) A B(evan) ill dau yn ffafrio `arsylwi ar', os yw hynny o bwys!" Mae'n ymddangos, felly, ein bod ni i gyd yn "iawn"! Fel y mae'r ohebiaeth ar w-t-c wedi dangos, mae hwn yn fater sy'n codi pwyntiau ehangach lawer na mater yr arddodiad yn unig: 1. Does gennym ddim awdurdod sy'n gallu deddfu ynghylch ffurfiau cywir. Hyd yn oed petai'r awdurdod hwnnw'n bod, bydai angen iddo ailystyried y ffurfiau 'cywir' o bryd i'w gilydd. Gall term Saesneg newid rhywfaint ar ei ystyr dros gyfnod ac fe all fod achos lle y gall fod angen gwahaniaethu rhwng dau derm newydd a defnyddio hen derm Cymraeg am y naill a bathu un newydd am y llall. Y pen draw, mater o gonfensiwn yw 'cywirdeb', sef yr hyn sydd fwyaf derbyniol ym marn y gwybodusion. 2. Wrth fathu termau newydd, a berfau'n arbennig, mae'n werth i'r bathwyr roi cynnig ar defnyddio'r gair mewn sawl cyd-destun i weld, er enghraifft, a oes angen i arddodiad ddilyn berf sy'n fathiad newydd. Petai'r pwr dab a fathodd 'arsylwi' wedi nodi 'arsylwi ar' yn hytrach nag 'arsylwi' yn unig, byddai wedi arbed tipyn o drafferth i ni i gyd. (Dyw e ddim yn fathiad sy'n apelio ata i, rhaid dweud, ond mae angen rhyw air i gyfleu 'to observe'.) Cwestiwn i gloi: a oes unrhyw enghraifft arall yn bod o'r arddodiad sy'n arfer dilyn berf yn cael ei roi fel rhagddodiad ar ddechrau'r ferf honno i greu berf newydd? Ac os oes, a ailadroddir yr arddodiad ar ôl y ferf honno? Berwyn ----- Original Message ----- From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> Sent: Monday, April 11, 2005 5:19 PM Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi' Gair i gadarnhau'r hyn mae David wedi'i ysgrifennu. Mae'n hollol iawn wrth gwrs. Dyma'r termau a'r teitlau sydd wedi cael statws 1 yng nghronfa'r Cynulliad. Dylid ychwanegu fodd bynnag nad yw'r rhain yn gyson â'i gilydd bob tro, neu a bod yn fanwl gywir, fod rhannau o'r teitlau yn anghyson. Y drafferth wrth gwrs yw nad oes modd mynd yn ôl a newid enw teitl dogfen unwaith iddi ymddangos. Enghraifft o hyn yw 'looked after children'. Mae'n codi mewn sawl teitl, fel arfer yn y Gymraeg fel 'plant sy'n derbyn gofal' ond ceir o leiaf un enghraifft o 'plant y gofelir amdanynt', hefyd mewn teitl sy'n dwyn statws 1. Ar nodyn cadarnhaol, mae gen i deimlad fod pethau'n gwella. Wrth eu harfer bydd y termau hyn yn dod yn fwy cyfarwydd yn Gymraeg, a bydd llai o ddryswch. Unrhyw un yn cofio'r sefyllfa cyn i Wynedd ddechrau gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg? cyn y Ddeddf Iaith? cyn sefydlu'r Cynulliad? cyn bod diwydiant cyfieithu yng Nghymru? Mae pethau wedi gwella'n aruthrol y blynyddoedd diwethaf hyn. Delyth Ysgrifennodd David Bullock: >Yn sgil cyfeiriad Delyth at y Cynulliad, mae'n werth nodi bod un categori o >waith y Cynulliad y dylen ni feddwl amdano fel y gair olaf, sef >deddfwriaeth >y Cynulliad. > >Rwy'n credu bod Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud rhywbeth i'r perwyl bod >gan >y Cynulliad hawl i bennu ystyron geiriau Cymraeg a Saesneg, ac yn y >rheoliadau a'r gorchmynion sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad fe welwch >chi >yn aml fod geiriau ac ymadroddion allweddol y mesur yn cael eu diffinio yn >y >ddwy iaith. > >Er mor wantan yw grym y Cynulliad, mae gan y geiriau a'r ymadroddion hyn >rym >y gyfraith y tu cefn iddyn nhw. > > > >-----Original Message----- >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Delyth Prys >Sent: 11 April 2005 16:26 >To: David Bullock >Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi' > > > >>O ran diddordeb, gan fy mod yn gymharol newydd i'r byd cyfieithu, beth >>yw'r >>drefn o ran bathu a safoni termau fel arfer? Gan bwy y mae'r gair olaf ar >>hyn er enghraifft, os o gwbl? >> >> >> >Wel, dyna godi cwestiwn diddorol - a dyrys! >Yr ateb byr yw mai'r sawl sy'n talu sydd biau'r awdurdod. >Rydyn ni yma yn ceisio safoni termau yn y Ganolfan Safoni Termau >(bellach Uned e-Gymraeg Canolfan Bedwyr) ers dros ddeng mlynedd. >Os ydyn ni'n gwneud gwaith i gwsmer ac maen nhw'n dweud mai dyna fydd y >termau safonol iddyn nhw mae gan hynny 'awdurdod' e.e. gyda'n gwaith i >ACCAC maen nhw'n gofyn i gyfeithwyr sy'n gwneud gwaith iddyn nhw >ddefnyddio'r termau hynny, a dyna fydd ar y papurau arholiad - sy'n >ddadl gref i athrawon eu defnyddio. >Ond dyw hynny ddim yn gorfodi neb arall i'w defnyddio. Yr un fath gyda'r >Cynulliad, maen nhw'n gofyn i gyfieithwyr ddefnyddio termau TermCymru, >ac os nad yw cyfeiithwyr allanol yn eu defnyddio, gallan nhw wrthod talu >am y gwaith. Ond unwaith eto, does dim rhaid i neb arall eu defnyddio. >Mae gwrthdaro yn gallu codi os yw dau gorff yn mynnu termau gwahanol - >ond wedyn mae hyn yn eithaf cyffredin yn y byd rhyngwladol e.e. lle mae >gan gwmniau ceir eu henwau gwahanol ar yr un darnau. > >Wrth gwrs, mae'r fath beth yn bod ag awdurdod moesol - neu o leiaf hyder >fod corff safoni yn gwneud penderfyniadau call. Ar hyn o bryd mae safon >rhyngwladol newydd ar safoni yn cael ei greu (wir-yr) ac yn hwn bydd >consensws yn cael ei enwi fel un o'r angenrheidiau. Efallai mai dyna >paham rydyn ni wedi bod yn teimlo yn debycach i ddyfarnwyr gêm rygbi nag >academyddion doeth ers y deng mlynedd diwethaf. Gallwch chi ddyfalu pwy >sydd ar waelod y sgrym. > >Delyth > > > >>____________________ >>Meinir Eluned Jones >>Cyfieithydd / Translator >>Gyrfa Cymru >>Prif Swyddfa >>5 Stryd y Castell >>Caernarfon >>LL55 1SE >> >>Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282 >>E-bost/ E-mail: [log in to unmask] >>www.gyrfacymru.com >> >>-----Original Message----- >>From: Sian Roberts [mailto:[log in to unmask]] >>Sent: 11 April 2005 15:30 >>To: [log in to unmask] >>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi' >> >>Cytunaf i â'r ardderchocach Ddavid. >>Yes!! >> >>Ond, yn y frawddeg dan sylw, tybed a fyddai "dylech drefnu i fod yn >>bresennol yn y cyfweliadau" yn swnio'n fwy naturiol? >> >>-----Original Message----- >>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock >>Sent: 11 April 2005 15:23 >>To: [log in to unmask] >>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi' >> >>Efallai 'mod i'n un o'r rhai y mae Berwyn wedi'u gweld yn defnyddio >>"ar". >> >>Mae'n ddiddorol bod Geiriadur yr Academi yn cofnodi dwy ferf: "arsyllu >>(rhth, ar rth)" neu "arsylwi (ar rth)". Hynny yw, dyw e ddim wedi >>cofnodi >>enghreifftiau lle mae "arsylwi" yn cael ei ddilyn gan wrthrych heb yr >>arddodiad. >> >>Dwy ddim yn deall pam y byddai berf sy'n cael ei defnyddio mewn cyfuniad >>ag >>arddodiad yn colli'r arddodiad wedyn wrth i ragddodiad gael ei ychwanegu >>ati >>i greu berf gyfansawdd. >> >>Hynny yw, dyw "canolbwyntio ar ei waith" ddim yn troi'n "gorganolbwyntio >>ei >>waith", dyw "edrychwch arno fe" ddim yn troi'n "ciledrychwch e", dyw >>"gwenu >>ar ryw ferch" ddim yn troi'n "crechwenu rhyw ferch". Er ychwanegu >>rhagddodiad, mae'r arddodiad yn cael ei gadw yr un fath. >> >>mae hyn eto yn ffafrio cadw "ar" ar ôl "arsylwi". >> >>Eto i gyd, mae "ar-" fel rhagddodiad yn wahanol i'r rhain wrth gwrs, am >>ei >>fod yn unffurf â'r arddodiad "ar". Ac mae'n ymddangos bod rhyw rwystr yn >>cadw rhai siaradwyr o leiaf rhag ailadrodd yr un ffurf fel rhagddodiad >>ac >>arddodiad yn yr un ymadrodd. Pam dylai hynny fod tybed? >> >> >> >> >> >>-----Original Message----- >>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >>[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones >>Sent: 11 April 2005 14:20 >>To: David Bullock >>Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi' >> >> >>Na minne chwaith. Gan mai cyfuniad yw 'arsylwi' yw 'ar' a 'sylwi', >>byddwn >>i'n dadlau nad oes angen ailadrodd yr 'ar', er 'mod i wedi gweld hynny >>mewn >>sawl cyfieithiad dros y blynyddoedd. Yr unig enghraifft arall y gwn i >>amdani >>o 'ar' + xxxx + 'ar' yw 'arbenigo ar', ond gan nad 'ar' + 'penigo' (!) >>roddodd fod i'r ffurf honno, dyw hynny'n ddim help. >> >>Mae'n bosib, wrth gwrs, na wnaeth y rhai a fathodd 'arsylwi' ddim >>ystyried a >>ddylid rhoi 'ar' wrth ei gwt e. >> >>Berwyn >> >>----- Original Message ----- >>From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]> >>To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> >>Sent: Monday, April 11, 2005 2:03 PM >>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi' >> >> >>Fyddwn i ddim yn ychwanegu'r arddodiad. 'Arsylwi staff/plant/dosbarth >>fyddwn i'n ei ddweud. >>Nia >> >> >> >> >>>---------- >>>From: Meinir Jones[SMTP:[log in to unmask]] >>>Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and >>>vocabulary >>>Sent: 11 April 2005 13:39 >>>To: [log in to unmask] >>>Subject: Arddodiad ar ôl 'arsylwi' >>> >>><<File: image001.gif>> >>>Helo! >>>A oes angen 'ar' ar ôl arsylwi, h.y "arsylwi staff" ynteu "arsylwi ar >>>staff" ddylem ni ei ddweud? >>>Diolch rhag blaen am unrhyw oleuni ar y mater! >>>Meinir >>>____________________ >>>Meinir Eluned Jones >>>Cyfieithydd / Translator >>>Gyrfa Cymru >>>Prif Swyddfa >>>5 Stryd y Castell >>>Caernarfon >>>LL55 1SE >>>Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282 >>>E-bost/ E-mail: [log in to unmask] >>><mailto:[log in to unmask]> >>>www.gyrfacymru.com <http://www.gyrfacymru.com> >>> >>> >>>_______________________________________________________ >>> >>>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn >>>gyfrinachol, ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r >>> >>> >>> >>hanfod >> >> >> >>>y'u cyfeirir hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar >>> >>> >>> >>gam >> >> >> >>>a wnewch chi roi gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda. >>> >>> >>> >>Nodwch >> >> >> >>>mai barn yr awdur yn unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn, >>> >>> >>> >>ac >> >> >> >>>nid ydyw o anghenraid yn cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf, >>> >>> >>> >>dylai'r >> >> >> >>>derbynnydd wirio'r e-bost hwn ac unrhyw atodion rhag presenoldeb >>> >>> >>> >>firysau. >> >> >> >>>Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir >>> >>> >>> >>gan >> >> >> >>>unrhyw firws a drosglwyddir gan yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com >>> >>>This email and any files transmitted with it are confidential and >>> >>> >>> >>intended >> >> >> >>>solely for the use of the individual or entity to whom they are >>> >>> >>> >>addressed. >> >> >> >>>If you have received this email in error please notify the sender. >>> >>> >>> >>Please >> >> >> >>>note that any views or opinions presented in this email are solely >>> >>> >>> >>those >> >> >> >>>of the author and do not necessarily represent those of Careers Wales. >>>Finally, the recipient should check this email and any attachments for >>> >>> >>> >>the >> >> >> >>>presence of viruses. The company accepts no liability for any damage >>>caused by any virus transmitted by this email. www.careerswales.com >>> >>> >>> >>> >>> >>****************************************************************** >> >>This email and any files transmitted with it are confidential >>and intended solely for the use of the individual or entity to >>whom they are addressed. If you have received this email in error >>please notify the administrator on the following address: >> [log in to unmask] >> >> >>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn >>gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd >>hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy >>gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: >> [log in to unmask] >> >>******************************************************************* >> >><b>_______________________________________________________ >> >>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn >>gyfrinachol, >>ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r hanfod y'u cyfeirir >>hwy >>atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar gam a wnewch chi roi >>gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda. Nodwch mai barn yr awdur >> >yn > >>unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn, ac nid ydyw o anghenraid >>yn >>cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf, dylai'r derbynnydd wirio'r e-bost >> >hwn > >>ac unrhyw atodion rhag presenoldeb firysau. Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw >>atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir >>gan >>yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com >> >>This email and any files transmitted with it are confidential and intended >>solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. >>If you have received this email in error please notify the sender. Please >>note that any views or opinions presented in this email are solely those >>of >>the author and do not necessarily represent those of Careers Wales. >> >Finally, > >>the recipient should check this email and any attachments for the presence >>of viruses. The company accepts no liability for any damage caused by any >>virus transmitted by this email. www.careerswales.com</b> >> >> >> >> > >