Yn hytrach, mae Google yn rhy siaradus - nifer fawr o enghreifftiau nad ydynt yn perthyn. 
 
Ydy'ch pennawd yn golygu'ch bod chi'n cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg?  Os felly, efallai bod yr awdur wedi ceisio troi acronym Saesneg yn Gymraeg.  Wrth chwilio am bethau natur/cadwraeth mae fel arfer yn syniad i fynd i "Advanced Search" a chyfyngu'r chwilio i safle fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru (www.ccw.gov.uk), ond nid oes dim byd yno.  Anodd gen i gredu na fyddai son am yr enw petai o'n un dilys.
 
Allech chi roi ychydig yn rhagor o'r cyd-destun?
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Palmer Parry x
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Saturday, April 02, 2005 3:29 PM
Subject: HELP! 'Cynllun SIGAR 2003'

Acronym, mae'n debyg - wn i ddim y mha iaith. Rhywbeth i wneud â chynllun Tir Mynydd?  Mae Google yn hynod o dawedog. Oes gan rywun ryw syniad?
Palmer