Print

Print


Mae hyn yn cadarnhau'r argraff bod llawer o'r pethau a gaf i'w cyfieithu yn
ddim byd ond geiriau gwag nad oes hyd yn oed yr awdur yn eu deall yn iawn.
'Rwyf hefyd wedi cael neges breifat gan gyfieithydd sydd wedi gwneud gwaith
i'r Gronfa, ac sydd wedi'i orfodi i ddefnyddio "Y Gronfa Loteri Fawr" er
gwaethaf awgrymu gwelliannau.  Wrth gwrs, unwaith bod corff mawr wedi
defnyddio teitl anffodus mae'n mynd i fod yn gostus ac yn embaras i'w newid.

Os caf byth hamdden, ysgrifennaf at y Gronfa a gofyn am ei rhesymeg - ond
peidiwch a dal eich anadl!

Ann
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 07, 2005 2:04 PM
Subject: Re: The Big Lottery Fund


> > Mae TermCymru (statws 1) a gwefan y gronfa ei hun yn rhoi "Y Gronfa
Loteri
> > Fawr".  Pam nad Cronfa Fawr y Loteri?  Os mai hon yw cronfa'r Loteri
Fawr,
> > beth yw'r Loteri Fach?
>
> Nid cyfeirio at 'big lottery' na 'big fund' mae e.  Mae'r 'Big' yn ryw
> fath o ddyfais marchnata dwi'n meddwl, i esbonio fod y corff yn gwneud
> gwahaniaeth 'mawr' gyda'i grantiau.
>