gwahaniaethu ar sail oedran? rhagfarn oedran? Yn y ddogfen dan sylw mae'r ddau derm 'ageism' ac 'age discrimination' yn cael eu defnyddio. Dw i'n teimlo bod yna wahaniaeth rhyngddyn nhw - 'age discrimination' yw'r weithred, sef 'gwahaniaethu ar sail oedran' - ac efallai fod 'ageism' felly yn cyfeirio at y rhagfarn waelodol sy'n arwain at y weithred. Gyda llaw mae'r ddogfen yn cyfeirio at bobl dros hanner cant fel y rhai sy'n dioddef y math yma o ragfarn. Gan mod i wedi cael y pen-blwydd tyngedfennol hwnnw'n yn ystod y misoedd diwethaf dw i'n meddwl yr a i i lyncu ychydig o fitaminau ac efallai cael nap bach.... -- No virus found in this outgoing message. Checked by AVG Anti-Virus. Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.3 - Release Date: 05/04/2005