Cwestiwn twp, mae'n siwr. Pan fyddaf yn wael, neu arnaf eisiau edrych fy nannedd, af at y docto-a'r-doctor, neu at y deintydd'-a'r deintydd. Beth ydwyf pan nad wyf yn wael? Hynny yw, mae llythyr at feddyg teulu yn gofyn a yw unigolyn yn addas ar gyfer rhyw swyddogaeth arbennig, ac yn dweud "The above-named person, who is a patient of yours ..." A gyfeirir at rywun fel "claf" yma, er nad yw'n digwydd bod yn wael ar y pryd? Diolch, Ann