Print

Print


Dw i wedi cymryd mai rhywbeth tebyg i 'bunker mentality' ydi'r ystyr, fel mae John yn deud - unigolyn yn glynu at ei syniadau ei hun waeth pa mor amherthnasol neu anghywir y maen nhw.  Ond dw i ddim yn siwr sut byddai rhywun yn ei gyfieithu.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Puw, John
Sent: 23 March 2005 12:58
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: "silo mentality"

Wedi ei gyfieithu yma, ac o dan y syniad mai cyfeirio at unigolyn sydd yn glynu at ei syniadau ei hun oedd hyn - ar draul syniadau cydweithwyr neu asiantaethau eraill.  Mae''n rhaid i mi gyfadde i mi ddefnyddio "meddylfryd seilo" gan obeithio ei fod yn gwneud cymaint o synnwyr â'r Saesneg!
 
John


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Palmer Parry x
Anfonwyd/Sent: 23 March 2005 12:42
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: "silo mentality"

A oes rhywun wedi dod ar draws y term hwn? Mae'n ymddangos mai ei ystyr yw meddylfryd y rheolwr sy'n hoff o greu ei ymerodraeth iddo'i hun, casglu ei ddata ei hun, etc. yn hytrach na sboncian o'r naill job i'r llall, mae'n debyg - y gwrthwyneb i "jack of all trades"?
 
Wn i ddim pa fath o "silo" a ddelweddir - silindr i ddal grawn ynteu twll yn y ddaear i ddal roced?
A fyddai "meddylfryd seilo" yn gwneud y tro yn Gymraeg?
Palmer

Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.

North Wales Police