Print

Print


Does dim rhaid i'r un ohonom weithio i asiantaethau cyfieithu yn Lloegr. Petaem i gyd yn gwrthod, fyddai dim modd iddyn nhw gymryd y gwaith.
Glenys
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, March 16, 2005 1:59 PM
Subject: Re: Stori rybuddiol

Pan godwyd y mater hwn gerbron Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, fe ddywedwyd wrthym yn ddigon chwyrn na ddylem ymwneud â'r trywydd hwn o gwbl gan fod y farchnad yn un gwbl rydd.
 
Faint ohonom sy'n mynnu prynu cyfrifiaduron sydd wedi'i cynhyrchu yng Nghymru?
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Wednesday, March 16, 2005 1:51 PM
Subject: Re: Stori rybuddiol

Ga i bregethu hen bregeth?
 
Onid yw hi'n warthus bod cymaint o waith cyfieithu, yn aml yn waith gan sefydliadau mawrion, yn mynd at asiantaethau y tu allan i Gymru?  Mae hyd yn oed yr asiantaethau parchus yn debyg o wneud arian mawr o'r gwahaniaeth rhwng ein prisiau ni a phrisiau cyfieithu yn y byd mawr, ac nid oes modd gan rai ohonynt i wirio safon y cyfieithiadau, er iddynt wario'n helaeth ar ol-drosi ac ati.
 
Mewn sawl achos, mae sefydliadau yng Nghymru yn mynnu bod ymgynghorwyr sy'n tendro am waith yn medru cynnig eu hadroddiadau, neu rannau ohonynt, yn Gymraeg.  Mae hyn yn golygu mai'r ymgynghorydd, yn hytrach na'r sefydliad, sy'n trefnu'r cyfieithiad.  Yn achos Cyngor Cefn Gwlad Cymru mae rhaid i'r ymgynghorydd ddefnyddio cyfieithydd ar restr gymeradwy'r Cyngor, ond gwn am o leiaf un sefydliad arall lle mae'r ymgynghorydd wedi mynd y tu allan i Gymru (ac weithiau'n derbyn gwaith nad oedd o safon arbennig iawn), er bod y sefydliad ei hun yn rhoi gwaith i gyfieithwyr/asiantaethau yng Nghymru.  A oes modd i rywun, e.e. Bwrdd yr Iaith, annog pob sefydliad i ddilyn esiampl y Cyngor Cefn Gwlad?  A oes modd i fwy o gyfieithwyr ddod at ei gilydd i ymgymryd a chontractau mawr, i dargedu sefyliadau yn lle aros am ymholiadau, ac i gynnwys y gwaith golygu - a hyd yn oed y gwaith dylunio - yn eu gwasanaeth?
 
Jyst peidiwch a gofyn i mi ei drefnu!
 
Ann
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Palmer Parry x
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, March 16, 2005 11:37 AM
Subject: Stori rybuddiol

Dyma stori wir (newidiwyd enw'r prif gymeriad) Byddwch yn ofalus!
 
Trwy'r e-bost y bydd ymholiadau am waith cyfieithu yn fy nghyrraedd bron yn ddieithriad, a byddaf yn ateb trwy'r e-bost hefyd, gan nodi'r telerau ac esbonio y byddaf yn codi tâl ar sail nifer y geiriau yn y testun cyfieithiedig, ac yn ychwanegu TAW.  Fodd bynnag, y tro hwn, cefais alwad ffôn cwbl ddirybudd :
"Hello, this is Neville Hohenzollern, we've spoken before about translation rates, but I can't remember what we said then, was it £60 per thousand?"  (pris go hael ar y pryd!)
Rwy'n cofio meddwl nad oedd gen i gof trafod dim byd o'r fath, ond llyncais yr abwyd, yn enwedig pan aeth ymlaen i gynnig £50 am 300 gair, oherwydd bod eu hangen y diwrnod hwnnw.  O hynny ymlaen, wrth gwrs, bûm yn gwneud gwaith iddo heb unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig o'r telerau!
Tric arall gan Neville oedd peidio â defnyddio rhifau job trefnus, gan anfon gwaith i'w gyfieithu o dan benawdau fel "short doc" neu "urgent doc", a thaeru hefyd nad oedd wedi derbyn unrhyw anfonebion a anfonwyd ato trwy'r e-bost.  Wedyn, pan fyddai'r ddyled yn filoedd o bunnoedd, byddai'n dweud "I've never seen these invoices before, and I don't know which jobs these are.  All this will take time to sort out".
Yn y diwedd, pan oedd yn amlwg na fyddai'n cael dim rhagor o waith cyfieithu allan ohonof i, y daeth yr ergyd farwol, sef llythyr yn dweud,"You've been invoicing me on the target word counts. This is completely unacceptable". Yr un pryd, ymddangosodd colofn newydd at dalebion Neville, gyda'r pennawd "source word count". 
Heb dystiolaeth ysgrifenedig o'r telerau gwreiddiol, heb rifau job y gellid eu holrhain, na niferoedd geiriau a oedd ar gael yn ymarferol, roedd Neville mewn sefyllfa gref i oedi, cymhlethu ac osgoi talu yn ddibendraw.
Palmer