----- Original Message -----
Sent: Tuesday, March 15, 2005 3:51
PM
Subject: Hawlio arian ar-lein yn y llys
sirol
Treuliais ran o'r dydd heddiw yn ceisio gwneud
hawlaid yn y llys sirol ar-lein. Mae'n ymddangos na ellir gwneud hawlaid
ar-lein yn y Gymraeg. Cefais ar ddeall fod hawliadau o'r fath
i gyd yn cael eu prosesu mewn canolfan yn Northampton, a bod y
"Gwasanaeth Llys yn Llundain" (Lord Faulkener, tybed?) wedi gwrthod caniatād i
Gylchdaith Cymru a Chaer gynnig gwasanaeth Cymraeg ar-lein.
Gan mai fy mwriad oedd ceisio hawlio arian sy'n
ddyledus imi am waith cyfieithu (gan asianteth o Gaerdydd), nid oedd
gennyf lawer o awydd gwneud hynny yn Saesneg. Pe bai'r achos yn mynd
ymlaen i wrandawiad, tybed a fyddai'r barnwr yn deall rhywfaint o
Gymraeg? Roedd un swyddog y būm yn siarad ā hi (o swyddfa'r
Gwasananeth yng Nghaerdydd) yn llawn cydymdeimlad, ac yn awgrymu fy mod
yn ysgrifennu i gwyno, naill ai ati hi:
Ms Margaret Davies, Y Gwasanaeth Llys, Ail Lawr,
Churchill House, Churchill Way, Caerdydd CF10 2HH,
neu at Fwrdd yr Iaith.
Palmer