Ehebiaeth flaenorol: >> Gyda llaw, un fantais o ofyn am gyfieithiadau fesul cangen unigol yw fod >> hynny'n ei gwneud yn bosibl amrywio rhai cyfieithiadau yn ôl >> tafodieithoedd rhanbarthol. Y tro cyntaf hwnnw, tynnais sylw Morrisons >> at y gwahanol eiriau tafodieithol a ddefnyddir am 'sweets', er >> enghraifft. >'Ddrwg gen i'ch siomi chi, Wyn, ond cofiaf Bruce yn tynnu fy sylw'n > arbennig at yr arwydd "losin" (os cofiaf yn iawn) ym Mangor. Mae'n > ymddangos eu bod nhw wedi drysu eich cyngor. Dyna ddysgu gwers galed ynglyn â pheryglon defnyddio cof cyfieithu ar frys. Roedd yr amrywiadau tafodieithol ar 'Sweets' i gyd wedi eu bwydo i'm cof cyfieithu, ond nid yr amrywiadau angenrheidiol ar gyfer 'Multipack Sweets', 'Bagged Sweets' ac ati -- ac fe ddryswyd Déjà Vu gan y gwahaniaeth, gyda'r canlyniad na chynigiodd y gwahanol gyfieithiadau o 'Sweets' i mi fel dewisiadau wrth i mi bwyso Ctrl + [saeth i lawr]. Diwygiwyd y cof cyfieithu bellach -- ond yn rhy hwyr i gangen Bangor, ysywaeth. Wyn