Diolch i bawb am y goleuni. "byddwch cystal" a ddefnyddiaf er bod y llall yn swnio'n well. (I mi, roedd hyn yn gynt o lawer na chwilota yn Peter Wynn Thomas - sydd bob amser yn job chwarter awr o leiaf. Fel deudodd Sylvia, trueni na fyddai PWT ar gael yn electronig) Palmer ----- Original Message ----- From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, March 11, 2005 10:27 AM Subject: Re: 'byddwch gystal' ynteu 'byddwch cystal' ? Mae treiglo dibeniad neu beidio fel pe bai'n bwnc dadleuol. Yn sicr, fyddai neb fyth yn dweud "Bu marw hwn a hwn"! Ar un llawr, ceir "Mi sydd fachgen ieuanc ffôl", ac ar y llaw arall "Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain", felly ymddengys nad oes dim rheol benodol. Os felly, tybiwn fod y ddau fersiwn isod yn gywir. Gyda llaw, mewn Llydaweg "Me zo mew" a "N'on ket mew" sy'n iawn!!! Helen Ysgrifennodd Palmer Parry x: > Daeth Gwgl o hyd i 410 'byddwch gystal' ond 1310 'byddwch cystal'. Pa un > sy'n gywir? > Palmer > -- H.K.Smith (Helen) [log in to unmask] (Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask] * * * * * * * * * Cathod/Cats * * Pianos * * *