Rwy'n cofio cael gorchymyn penodol (mewn Bwletin o'r Cynulliad) i ddefnyddio band eang am broadband a band llydan am wideband. Ar sail hynny, mae'n si^wr fy mod wedi defnyddio'r termau hynny ar gyfer dyrnaid go dda o gwsmeriaid eraill. Gan fod ansicrwydd hefyd yngl^yn â'r termau cyfatebol yn Saesneg, byddwn yn tueddu i dderbyn dyfarniad y Cynulliad. O'r hyn a ddarllenais am yr ystyron, ni allaf weld unrhyw anhawster 'cysyniadol' o ddefnyddio band eang am broadband. Palmer ----- Original Message ----- From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, March 07, 2005 3:50 PM Subject: Re: broadband > Anwybyddwn y Cynulliad! Glynwn at fand llydan! > (y trwbwl ydi mae 'band eang' yn mynd yn gyffredin iawn erbyn hyn) > > ----- Original Message ----- > From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Monday, March 07, 2005 10:38 AM > Subject: Re: broadband > > >> Yn anffodus, mae defnyddio 'enag' yn y cyd-destun hwn yn gysyniadol >> anghywir. Dyna paham y byddwn ni yn y Termiadur newydd yn defnyddio >> 'band llydan'. Bu trafodaeth helaeth ar hyn, ond penderfynwyd dal at yr >> egwyddor ei bod hi'n bwysig fod termau yn adlewyrchu nodweddion y >> cysyniad yn gywir (safon ISO 704). Mae hyn yn arbennig o wir am addysg >> ysgolion lle mae diffyg cywirdeb cysyniadol yn arwain at ddryswch wrth >> ddysgu pwnc. >> Mae'n drueni fod termau gwahanol yn cael eu defnyddio gan wahanol gyrff, >> ond dydi hynny ddim yn ddadl dros i bawb ddefnyddio term anfoddhaol >> ychwaith (dydi cysondeb ddim yn golygu safon bob tro!) >> Delyth >> >> >> >> Ysgrifennodd Muiris Mag Ualghairg: >> >> > Dw i'n cytuno'n llwyr ond dyna beth mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio. >> > >> > ----- Original Message ----- >> > From: "M.A.Elis" <[log in to unmask]> >> > To: <[log in to unmask]> >> > Sent: Monday, March 07, 2005 10:01 AM >> > Subject: Re: broadband >> > >> > >> > Dwi'n gwybod, sy'n esbonio pam y byddan nhw mewn twll pan ddaw wideband > i >> > mewn...... >> > >> > >> > >> > >> > -- >> > No virus found in this outgoing message. >> > Checked by AVG Anti-Virus. >> > Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.6.2 - Release Date: 04/03/2005 >> > >> >> >> -- >> No virus found in this incoming message. >> Checked by AVG Anti-Virus. >> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.6.0 - Release Date: 02/03/05 >> >> >