Ac os coeliwch chi hynna .... Y broblem ydy eich bod, wrth geisio osgoi camarwain ynghylch ystyr, yn camarwain ynghylch ynganiad. (Efallai bod yr 'e' yn y gemau mae pobl yn eu chwarae fymryn yn hirach yn y De nag yn y gemau mae pobl yn eu gwisgo [fel mewn geiriau fel 'seren'], ond nid felly yn y Gogledd.) Be' ddylen ni wneud hwyrach ydy rhoi dwy 'm' yn un ohonyn nhw ... (sorri, joc/jôc arall) G ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, March 01, 2005 11:19 AM Subject: Re: Fw: Spill Vase Dyna beth wnaeth Bruce flynyddoedd yn ol, a mynd yr holl ffordd i Bortmeirion i "Antique Jewellery Fair" yn lle'r "Antique Board Games Fair" yr oedd wedi bod yn edrych ymlaen ati. Ann ----- Original Message ----- From: Sian Roberts To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, March 01, 2005 10:37 AM Subject: Re: Fw: Spill Vase Rwy wedi defnyddio "gêmau" cyn hyn - wrth sôn am y gwahanol bethau oedd ar werth mewn ffair grefftau - rhag ofn i bobl feddwl mai "gemau" oedd yno. Mae gwahanol eiriau y gallwch eu defnyddio i gyfieithu "gems" ond does dim lot o ddewis ar gyfer "games". -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M Roberts Sent: 01 March 2005 10:01 To: [log in to unmask] Subject: Re: Fw: Spill Vase Amen ac amen. Ond pam o pam y mae Orgraff yr Iaith Gymraeg (1987) yn rhoi'r ffurf hyll 'gêmau'? Alla i ddim hyd yn oed ynganu'r gair fel yna. (GPC - 'gemau', diolch byth.) O ddifri - pan fo'r ddau awdurdod yna'n anghytuno, beth mae cyfieithwyr druan i fod i'w wneud? Glenys ----- Original Message ----- From: Rhisiart Hincks To: [log in to unmask] Sent: Monday, February 28, 2005 8:13 PM Subject: Re: Fw: Spill Vase Mae cod, sef Orgraff yr Iaith Gymraeg a Geiriadur Prifysgol Cymru. Paham chwilio yn rhywle arall? Onid yw'n ddwl i bobl ddilyn gwahanol bolisïau. Yn y pen draw gall arwain at bob math o anghysonederau a checru, fel yn achos y Gernyweg, ac i raddau llai y Llydaweg, a'r Gymraeg yn y 19eg ganrif o ran hynny. Byddai'n ddigon hawdd 'gwella' orgraff y Gymraeg ac yn gwbl ddinistriol ar yr un pryd. Rhisiart ----- Original Message ----- From: Catrin Beard To: [log in to unmask] Sent: Monday, February 28, 2005 5:30 PM Subject: Re: Fw: Spill Vase Tybed oes angen datblygu cod ymarfer ar gyfer hyn, ynteu ai côd ymarfer ddyle hynna fod ... -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Geraint Løvgreen Sent: 28 February 2005 17:20 To: [log in to unmask] Subject: Re: Fw: Spill Vase Fasech chi'n rhoi to bach ar câs (am exhibition case) felly Alwyn? Dwi wrthi'n defnyddio'r gair hwnnw rwan fel mae'n digwydd, ac mi faswn yn gwerthfawrogi sylwadau! ----- Original Message ----- From: Alwyn Evans To: [log in to unmask] Sent: Monday, February 28, 2005 5:11 PM Subject: Re: Fw: Spill Vase 'Fâs' oherwydd mai benthyciad o'r Saesneg sy' yma, ac i'w wahaniaethu oddiwrth 'fas' (er enghraifft 'yn fas ei iaith') - ac er bod Berwyn a Geraint yn anghytuno gyda mi, mae GyA yn fy nghefnogi! Beth bynnag, mae 'potyn sbils' yn well - er nad 'spill pot' a ddywed y gwreiddiol Alwyn -------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Anti-Virus. Version: 7.0.300 / Virus Database: 266.5.1 - Release Date: 27/02/05