Print

Print


Diolch i bawb am eu cynigion – mae’n gwaethygu wrth fynd ymlaen!

Mae’r un ddogfen yn sôn am “any and all data, information and/or content
provided by +++ and any and all such content”.

Cefais gynnig diddorol am yr ymadrodd cyntaf gan Tim trwy ei gylch ef
sef 'Pob hawl eiddo deallusol beth bynnag ydyw' – tybed a fuasai hyn yn
ffordd fwy hwylus o gyfieithu’r ail ymadrodd – heb orfod ailadrodd
“data, information and/or content”?

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of bryn rowlands
Sent: 24 March 2005 15:34
To: [log in to unmask]
Subject: Re: any & all

 

Mae 'unrhyw hawl ddeallusol a phob hawl ddeallusol' yn well cyfieithiad
na'r hyn a gynigiais i.

Ond os ydym am gadw'r elfen o 'property' sydd yn intellectual property
right' byddai'n rhaid sôn am 'hawl eiddo deallusol' gan mai enw
gwrywaidd yw 'eiddo'.

 

Bryn

David Bullock <[log in to unmask]> wrote:

Ro'n i'n mynd i ddweud y gallai fod yn saffach cyfieithu'r ddwy elfen
hefyd, ond ar ben hynny, mae rhywbeth yn dweud wrtha mai "unrhyw hawl a
phob hawl...." fyddai'r gystrawen naturiol (neu "unrhyw hawl ddeallusol
a phob hawl ddeallusol" hyd yn oed). Ydy hynny'n gywir?

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of bryn rowlands
Sent: 24 March 2005 14:18
To: David Bullock
Subject: any & all

Credaf bod rheswm i gadw'n glos at y gwreiddiol mewn cyd-destun fel hyn,
ac ni welaf ddim o'i le ar 'unrhyw a phob hawl eiddo deallusol' 

 

Gall 'unrhyw' gynnwys hawliau nad ydynt eto'n bod, a 'phob' hawl yw pob
hawl heb angen ymhelaethu.

 

Bryn

Send instant messages to your online friends
http://uk.messenger.yahoo.com

Send instant messages to your online friends
http://uk.messenger.yahoo.com