Mae 'unrhyw hawl ddeallusol a phob hawl ddeallusol' yn well cyfieithiad na'r hyn a gynigiais i.
Ond os ydym am gadw'r elfen o 'property' sydd yn intellectual property right' byddai'n rhaid sôn am 'hawl eiddo deallusol' gan mai enw gwrywaidd yw 'eiddo'.
 
Bryn

David Bullock <[log in to unmask]> wrote:
Ro'n i'n mynd i ddweud y gallai fod yn saffach cyfieithu'r ddwy elfen hefyd, ond ar ben hynny, mae rhywbeth yn dweud wrtha mai "unrhyw hawl a phob hawl...." fyddai'r gystrawen naturiol (neu "unrhyw hawl ddeallusol a phob hawl ddeallusol" hyd yn oed). Ydy hynny'n gywir?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of bryn rowlands
Sent: 24 March 2005 14:18
To: David Bullock
Subject: any & all

Credaf bod rheswm i gadw'n glos at y gwreiddiol mewn cyd-destun fel hyn, ac ni welaf ddim o'i le ar 'unrhyw a phob hawl eiddo deallusol'
 
Gall 'unrhyw' gynnwys hawliau nad ydynt eto'n bod, a 'phob' hawl yw pob hawl heb angen ymhelaethu.
 
Bryn

Send instant messages to your online friends http://uk.messenger.yahoo.com

Send instant messages to your online friends http://uk.messenger.yahoo.com