Print

Print


Mae hyn yn ddiddorol. Rwy’n deall safbwynt David ac ymateb John. Gellid dadlau bod y treiglad yn troi’r enw’n ansoddair. Pa fath o dreth? Treth Gyngor, *Y* Dreth Gyngor. Ond ar y llaw arall gellid ei hepgor i ddangos mai’r cyngor sydd piau’r dreth ac yn gyfrifol am ei chodi, y Dreth Cyngor (gw. Geirfa Adrannau’r Llywodraeth). Ond am ryw reswm mae’n well gen innau Treth y Cyngor...

 

Wedi dweud hynny, efallai fod gwahaniaeth yma rhwng ‘Y Dreth Gyngor’ fel cysyniad cyffredinol neu gyfundrefn ar y naill law a ‘Treth y Cyngor’ sy’n cyfeirio at y dreth ei hun, h.y. y dreth a godir gan un cyngor penodol a’r gost i’r unigolyn. Pe baech yn gofyn i rywun “Beth yw’r pwnc mwyaf dadleuol y dyddiau hyn ym myd llywodraeth leol?” efallai mai “Y Dreth Gyngor” fyddai’r ateb. Ond wedyn, pe baech yn gofyn iddo/iddi restru’r taliadau misol y mae’n eu gwneud, efallai mai “Treth y Cyngor” fyddai un o’r rhain.

 

Garmon

 

Garmon Davies

Ewrolingo

+44 (0) 1656 668603

www.ewrolingo.co.uk

-----Original Message-----
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Puw, John
Sent: 10 February 2005 14:47
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Council Tax

 

Ond nid yr ysgol sydd pia'r wisg, na rygbi pia'r crys, na golff pia'r esgidiau, na newyddion pia'r ystafell. Fodd bynnag, onid y cyngor sy'n codi'r dreth?

 

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran David Bullock
Anfonwyd/Sent: 10 February 2005 14:34
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Council Tax

Beth sy'n swnio'n iawn i chi: "y crys rygbi" brynes i ddoe, neu "grys y rygbi" brynes i ddoe, "y wisg ysgol" sydd gan y plant neu "wisg yr ysgol", "y sgidiau golff" neu "sgidiau'r golff", "y stafell newyddion" neu "stafell y newyddion"?

 

(Diolch/ymddiheuriadau i Geraint Lloyd Radio Cymru am yr un ola 'na gyda llaw: mae e wastad yn mynnu defnyddio'r un anghywir.)

 

Ac os nad yw'r enghreifftiau gwamal hyn yn ddigon i'ch perswadio, mae deddf gwlad yn dweud mai "y dreth gyngor" yw'r ffurf swyddogol gan aelodau'r Cynlleied, gweler e.e. http://www.wales-legislation.hmso.gov.uk/legislation/wales/wsi2004/20042921w.htm

 

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Puw, John
Sent: 10 February 2005 14:12
To: David Bullock
Subject: Council Tax

Rydan ni ers blynyddoedd wedi dilyn cyngor Termau Llywodraeth Leol ar yr uchod, a defnyddio Treth y Cyngor.  Ond mae Term Cymru yn rhoi Y Dreth Gyngor yn bennaf, er bod Treth y Cyngor hefyd yn ymddangos.  Nid oes cyfeiriad ato yn GyrA.

 

Rydan ni o'r farn fod Y Dreth Gyngor yn anghywir (ond ddim yn gwybod pam yn union).

 

Beth yw eich barn chi os gwelwch yn dda.  Mae gennym swyddog yma sy'n mynnu dilyn "Y Swyddfa Gartref"

 

Diolch

 

John


Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal b'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilkwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatbd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.

North Wales Police


Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.

North Wales Police