----- Original Message -----
Sent: Monday, February 07, 2005 3:52
PM
Subject: Re: paintballing
Da rwan - pwy sy'n cyfieithu i'r Bwrdd Croeso? -
dewch o'na, cyfaddefwch.
Oni ddylai'r cylch yma fod â rhyw drefn o roi sêr
neu rywbeth tebyg i gyfieithiadau da? Da'n ni'n clywed cymaint o gwyno
am waith gwael.
Yn y cyd-destun yna, mi ddylwn fod wedi dweud ar
y pryd 'mod i'n hoffi 'sgwennu bwrw bol' Annes yr wythnos dwetha am
'spontaneous writing'.
Glenys
----- Original Message -----
Sent: Monday, February 07, 2005 3:33
PM
Subject: Re: paintballing
dwi'n meddwl mai 'pledu paent' mae'r Bwrdd
Croeso yn ei ddefnyddio
Hwyl
Gwerfyl
----- Original Message -----
Sent: Monday, February 07, 2005 3:31
PM
Subject: paintballing
Paintballing?
Oes gan rywun
syniad?
Diolch,
Gorwel