"Although this service cannot provide high quality translations, it is
enough to provide a quick and easy basic translation. "
Dwi'n meddwl bod angen saethu pwy bynnag oedd yn ddigon gwirion i feddwl
bod hyn yn wir!
----- Original Message -----
Sent: Monday, February 07, 2005 2:19
PM
Subject: Cymraeg Rhywiol Bangor.
Gyfeillion,
Mae'n siwr eich
bod wedi gweld yr erthygl "Rhyw fath o Gymraeg" yn Golwg. Os na,
rwy'n argymell bachu copi'n ddiymdroi achos mae o'n feri feri
trist!!
Mae'r erthygl yn
cynnwys darn o gyfieithu o safon debyg i lawer o'r pethau fydd ar werth yn y
siop, mae'n siwr.
Pendronwyd yn hir
ynghylch pwy ar y ddaear a greodd yr erthyl gyfieithiad. Ond
wedyn, deuthum o hyd i'r wefan ragorol www.translation-guide.com.
Rwy'n eich argymell i roi'r geiriau "Nice 'n' Naughty Adult
Shop" yn y blwch a gofyn am gyfieithiad. Yna rhowch gais ar "Opening
Times". Ac os ydych am syrthio oddi ar eich cadeiriau, rhowch "Mon -
Sat" a gofynnwch am y cyfieithiad.
Tydi'r peiriannau
cyfieithu yma'n hwyl, deudwch?
John
Ni ddylid trin e-bost ar
y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn
monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u
cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y
neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl
a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad
yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich
cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to
be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all
Internet e-mail activity and content.
This communication is intended
for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and
erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be
unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.
Thank you for you co-operation.
North Wales
Police