----- Original Message -----
Sent: Monday, February 28, 2005 3:04
PM
Subject: Re: quintile
Sori, dylwn i fod wedi dweud ser-ddewinol yn lle seryddol! Ond
yr un gair ydi o, - o'r Lladin quintilis (dw i'n meddwl). Wn i
ddim sut y mudodd o fyd ser-ddewiniaeth i fyd ystadegaeth chwaith.
Dw i wedi dod ar ei draws o'r blaen mewn ymadroddion fel 'quintile of
deprivation' etc. - Ac ar ôl crafu pen am yn hir a meddwl am
wahanol ymadroddion yn cynnwys y gair pumed penderfynu defnyddio cwintel am ei
fod yn un gair. ond os ydi rhywun yn gwybod am gyfieithiad cydnabyddedig
byddwn i'n falch o wybod at y dyfodol.
Mae'r "Astr" yn GyrA yn cyfeirio at
sêr-ddewiniaeth yn hytrach na seryddiaeth. Ar y blaned hon, mae quantile,
quartile, percentile etc. yn dermau ystadegaeth. Felly hefyd
quintile.
Palmer
----- Original Message -----
Sent: Monday, February 28, 2005 12:43
PM
Subject: Re: quintile
Dw i wedi defnyddio cwintel o'r blaen, dw i'n gwybod mai
mewn ystyr 'seryddol' mae GyrA yn cyfieithu 'quintile' fel 'cwintel' ond
yr un gair ydi o am wn i.
Sylvia.
Unrhyw syniad be mae'r Cynulliad yn ei
ddefnyddio ar gyfer quintile - does dim i'w weld ar
TermCymru.
'...households in the lowest income
quintile....' ydi rhan o'r frawddeg gen i.
Diolch am unrhyw awgrymiadau.
Gwenllian